Y Salmau 43 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XLIIIIndica me Domine.Gweddio am gael ei wared o ddwylo yr enwir, modd y gallai foli Duw yn ei gynulleidfa sanctaidd.

1Barn fi (o Dduw) a dadleu’n dynn

yn erbyn pob oedd enwir,

Rhag y gwr twyllgar gwared fi,

a rhag drygioni’r dihir.

2Cans ti yw Duw fy nerth i gyd,

paham ym’ bwryd ymaith?

A pha’m yr âf mor drwm a hyn,

gan bwys y gelyn diffaith?

3Gyr dy olau, a moes dy wir,

ac felly twysir finnau:

A’m harwain i’th breswylfydd,

i’th fynydd, ac i’th demlau.

4Yna yr âf at allor Duw,

sef goruchel Dduw hyfryd,

Ac ar y delyn canaf fawl,

Duw, Duw, fy hawl a’m gwynfyd.

5Trwm wyd f’enaid o’m mewn: paham

y rhoi brudd lam ochenaid?

Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron

ei wyneb tirion cannaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help