1Yr Arglwydd ydyw ein pen rhaith,
bo perffaith y ddaiaren:
Ynysoedd cedyrn yr holl fyd,
bont hwy i gyd yn llawen.
2Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,
hyfrydwch nef gyfannedd:
Iawnder a barn ydynt yn sail,
ac adail maingc ei orsedd.
3Tân â o’i flaen ef, ac a lysg
ym mysg ei holl elynion:
4A’i fellt yn fflamio trwy’r holl fyd,
oedd olwg enbyd ddigon.
5O flaen Duw, fel y tawdd y cwyr,
y bryniau’n llwyr a doddent:
O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ar
y ddaiar y diflannent.
6Yr holl nefoedd yn dra hysbys
a ddengys ei gyfiownedd:
A’r holl genhedloedd a welsant
ei fawr ogoniant rhyfedd.
7Gwradwydd i’r rhai a wasnaethan
y delwau mân cerfiedig:
Addolwch ef (nid aulun cau)
holl dduwiau darfodedig.
8Dy farnedigaeth (o Dduw Ion)
a glybu Sion ddedwydd:
Merched Juda (o herwydd hyn)
sy’n ynnyn o lawennydd.
9Cans ti (o Arglwydd) yw fy Naf,
oruchaf dros y ddaiar:
Rhagorol yw’r derchafiad tau
uwchlaw’r holl dduwiau twyllgar.
10Pob drygioni chwi a gasewch,
caru a wnewch yr Arglwydd,
Hwn sydd yn cadw oes ei Sainct,
i’w dwyn o ddrygfraint afrwydd.
11Mewn daiar yr egina’i hâd,
goleuad daw i’r cyfion,
Yn ol tristwch fo dry y rhod,
i lân gydwybod union.
12Yn yr Arglwydd, o’r achos hon,
chwi gyfion llawenychwch,
Drwy goffa ei sancteiddrwydd ef,
â llais hyd nef moliennwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.