1O molwch enw’r Arglwydd nef,
ei weision ef moliennwch,
2Y rhai a saif iw dy a’i byrth,
i’n Duw a’i fawrwyrth cenwch.
3Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
clod i’r Ior a berthyn:
Cenwch ei glod dros yr holl fyd,
a hyfryd yw y destyn.
4Oblegid yr Arglwydd, a’i nawdd,
ef a etholawdd Jaco,
Ac Israel, iw mysg y trig,
yn deulu unic iddo.
5Cans mawr yw’r Arglwydd yn ei lys,
mi a wn yn hysbys hynny:
Ym mhell uwchlaw’r holl dduwiau mân,
mae’r Arglwydd glân a’i allu.
6Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,
yn uchder nef eithafon:
Ar ddaiar, ac yn y mor cau,
a holl ddyfnderau’r digion.
7O eithaf daiar cyfyd tarth,
daw’r mellt o bobparth hwythau,
Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,
a godynt o’i drysorau.
8Yn nhir yr Aipht dynion, a da,
â llawer pla y trawodd,
Cyntaf-anedig o bob un,
â’i law ei hun a laddodd.
9I’th ganol di, o Aipht greulon,
rhoes Duw arwyddion rhyfedd:
Ar Pharo a’i holl weision i gyd:
dug drwy’r holl fyd orfoledd.
10O nerth ei fraich efe a wnaeth,
lawer cenhedlaeth feirwon:
A lladdodd lawer yr un wedd
o ben brenhinoedd cryfion.
11Sef o’r Amoriaid Sehon fawr,
ac Og, y cawr o Basan:
A’r un ddinystriad arnynt aeth,
a holl frenhiniaeth Canan.
12A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,
gyd â’i holl fywyd bydol,
I Israel i roi a wnaeth
yn etifeddiaeth nerthol.
13Dy enw (o Arglwydd) a’th nerth cry’,
a bery yn dragywydd,
Ac o genedl i genedl aeth
dy goffadwriaeth, lywydd.
14Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,
yr Arglwydd cadarn cyfion,
Ac yn ei holl lywodraeth bur,
bydd dostur wrth ei weision.
15Y delwythau oll, gwaith dwylaw yn,
a dyfais dyn anffyddlon,
O aur ac arian dyn a’i gwnaeth,
o hil cenhedlaeth weigion.
16O waith dyn, genau rhwth y sydd,
heb ddim llyferydd iddyn:
Ac mae llun llygaid mawr ar led,
a’r rhai’n heb weled gronyn.
17Drwy glust dynion sydd i bob un,
heb glywed mymryn etto.
Eu safn yn ehang, ac ni chaid
na chwyth, nag enaid yntho.
18Un fodd a’r delwau fydd y rhaf
a’i gwnelai hwynt â’i dwylo.
Ac nid yw well nâ’r rhai’n yr un,
ynthyn a ymddirietto.
19Ty Israel na choeliwch chwi:
ty Aron, Lefi ufydd,
20I’r rhai’n ddim, ond i’r Arglwydd nef,
bendithiwch e’n dragywydd.
21Bendithier fyth mawr enw’r Ion,
o Seion hen a barchem,
Bendithier moler ei enw fo,
sy’n trigo ynghaer Selem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.