Y Salmau 32 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XXXIIBeati quorum.Dedwyddwch y sawl y maddeuwyd eu pechodau: cyfaddef ei bechodau y mae, a chael maddeuant: cyngor i’r annuwiol i wellau, ac i’r duwiol i orfoleddu.

1Y sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,

drwy fadde’i gyd ei drosedd,

Ac y cysgodwyd ei holl fai,

a’i bechod, a’i anwiredd.

2A’r dyn (a gwnfyd Duw a’i llwydd)

ni chyfri’r Arglwydd iddo

Mo’i gamweddau: yw hwn ni châd

dim twyll dichellfrâd yntho.

3Minnau, tra celwn i fy mai,

yn hen yr ai ’mhibellion:

A thrwy fy rhuad i bob dydd,

cystuddio y bydd fy nghalon.

4Dy law dithau, y dydd a’r nos,

sydd drom drwy achos arnaf:

Troi ireidd-dra fy esgyrn mer

fel sychder y gorphennaf.

5Yna y trois innau ar gais,

addefais fy anwiredd:

6Tyst yn fy erbyn fy hun fum,

maddeuaist y’m fy nghamwedd,

7Amserol weddiau am hyn,

a rydd pob glanddyn arnad:

Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,

na chaer mo’r daith hyd attad.

8Rhyw loches gadarn wyd i mi,

rhag ing i’m cedwi’n ffyddlon:

Amgylchyni fy fi ar led,

â cherdd ymwared gyson.

9Dithau (o ddyn) dysg geni fi

y ffordd y rhodi’n wastad,

Mi a’th gynghoraf di rhag drwg,

y mae fy ngolwg arnad.

10Fel y march neu y ful na fydd,

y rhai y sydd heb ddeall:

Mae yn rhaid genfa neu ffrwyn den,

i ddal eu pen yn wastad:

11Caiff annuwolion, a wnant gam,

fawr ofid am eu traha:

A ffyddloniaid Duw, da y gwedd,

trugaredd a’i cylchyna.

12Chwithau’r cyfion yn dirion ewch,

a llawenhewch yn hylwydd:

A phob calon sydd union syth,

clodforwch fyth yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help