1Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
2Molwch chwi Dduw y duwiau’n rhwydd
3ac Arglwydd yr arglwydi,
4Hwn unic a wnaeth wrthiau mawr,
drwy ei ddirfawr ddaioni.
5Gwaeth â’i ddoethineb nef uwchben,
6a’r ddaiaren a’r dyfredd,
Y rhai yw prif sylwedd y byd,
ac i gyd o’i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
7R’ hwn a wnaeth oleuadau mawr,
o’r nef hyd lawr a’i fowredd.
8-9Haul y dydd, â’r lleuad y nos,
i ddangos ei drugaredd.
10’Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig,
a’r blaen-anedig ynthi,
11Ac a ddug Israel i’r daith,
ac ymmaith o’i holl gyni.
12A hyn drwy law gref a braich hir,
o rym ei wir ogonedd:
13A hollti’r mor coch yn ddwy ran,
o anian ei drugaredd.
14Dug Israel i’r lan yn wych,
fel dyna ddrych gorfoledd:
15Yscyttian Pharo, a’i holl lu,
a hyn a fu’i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.
16A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,
drwy wledydd dyrys anian:
17Taro brenhinoedd er eu mwyn,
ac felly eu dwyn hwy allan.
18Lladd llawer brenin cadarn llon,
19sef Sehon yr Amoriaid:
20Ac Og o Basan yn un wedd,
o’i fawr drugaredd dibaid.
21A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,
eu rhoi yn fywyd bydol
22I Israel ei was a wnaeth,
yn etifeddiaeth nerthol.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.
23Hwn i’n cystudd a’n cofiodd ni,
o’i fawr ddaioni tirion.
24Ac a’n hachubodd yn ddi swrth
oddiwrth ein holl elynion.
25Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd,
yn ddidlawd o’i drugaredd.
26Clodforwch Dduw brenin y nef,
rhowch iddo ei ogonedd.
27Molwch Arglwydd yr arglwyddi,
uwchben pob rhi o fowredd,
Duw’r duwiau, Ior uwchben pob Ion,
a ffynnon y drugaredd.
Molwch yr Arglwydd cans da yw, molienwch Dduw y llywydd, &c.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.