Y Salmau 130 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXXXDe profundis.Gweddi am drugaredd a maddeuant o’n pechodau, ac o’r diwedd am gael ein gwaredu o bob drwg.

1O’r dyfnder gelwais arnat Ion,

2O Arglwydd tirion gostwng

Dy glust, ystyria y llais mau,

clyw fy ngweddiau teilwng.

3Duw, pwy a saif yn d’wyneb di,

os creffi ar anwiredd?

4Ond fel i’th ofner di yn iawn,

yr wyd yn llawn trugaredd.

5Disgwyliais f’Arglwydd, wrth fy rhaid,

disgwyliodd f’enaid arno.

Rhois fy holl obaith yn ei air,

6f’enaid a gair yn effro.

Ac am yr Arglwydd gwilio’y bydd,

fwy nâ gwiliedydd difri:

A edrych blygain bob pen awr,

a welo’r wawr yn codi.

7Un wedd disgwylied Israel,

yn ddirgel am yr Arglwydd,

Cans mae nawdd gyda’r Arglwydd nef,

mae yntho ef rywiogrwydd.

Ei drugareddau ânt ar lled,

fe rydd ymward ini.

8Fe weryd Israel: fal hyn,

fo’i tyn o’i holl ddrygioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help