1Yn Nuw ymlawenhewch i gyd,
yr hollfyd, a datcenwch
2Ogoniant ei enw hyd y nef,
a’i foliant gref a draethwch.
3Wrth Dduw dwedwch fo bair dy law
i’th elyn oerfraw anfad,
Rhag amled yw nerth y llaw hon
â dy gaseion danad.
4Felly’r holl fyd i gyd a’i rhi’
i ti a ymostyngant,
Canant yt’ fawl, ac ânt hyd lawr,
i’th enw mawr y canant.
5O dowch, edrychwch ofnus yw
gweithredoedd ein Duw cyfion,
Ofn ei weithredoedd a rydd ddysg
ymysg holl feibion dynion.
6Fo droes y mor coch yn dir sych,
ai wyr yn droed-sych drwyddo:
A thrwy yr afon: llawen fu,
ei bod heb wlychu yno.
7Ef byth bydd lywydd cadarn gwych,
a’i olwg edrych beunydd
Ar y cenhedloedd drwy’r holl fyd,
ni chyfyd rhai anufydd.
8O bobloedd molwch Dduw ar gais,
a moeswch lais ei foliant:
9Hwn sy’n dal bywyd yn y gwaed
a ddeil ein traed na lithrant.
10O Dduw, profaist a choethaist ni
un wedd a choethi arian.
11Yn gaeth y dygaist ni i’th rwyd,
ein cyrph a wasgwyd weithian.
12Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,
bu rai’n marchogaeth arnom:
O peraist hyn: ni bu chwaith hir,
i ddiwall dir y daethom.
13Ac offrwm poeth i’th dy yr âf
talaf fy addunedau,
14Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais,
addewais â’m gwefusau,
15Poeth ebyrth breision yt a rof,
aroglaeth cof cyfammod,
Ychen, hyrdd, offrymmu a wnaf,
ac etto rhoddaf fychod,
16O dowch yn nes a gwrandewch chwi
sy’n ofni Duw tragfythoes,
Mi a fynegaf i chwi’n ffraeth
pa les a wnaeth i’m heinioes.
17Llefais i arno â’m genau,
a’r tafod mau a’i molawdd.
18Pe troeswn fy nghalon at fai,
Duw a’m gwrandawsai’n anawdd.
19Diau Duw a’m clybu yn hawdd,
gwrandawawdd ar fy ngweddi,
20 Bendigaid yw: fo a’m clywawdd,
ni throes mo’i nawdd oddiwrthi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.