1Molwch yr Arglwydd, cans da yw
canu i Dduw yn llafar:
O herwydd hyfryd yw ei glod,
a da yw bod yn ddiolchgar.
2Caersalem dinas gyflawn fydd
yr Arglwydd sydd iw darpar:
Can gasglu Israel ynghyd,
a fu drwy’r byd ar wasgar.
3Yr unic Arglwydd sy’n iachâu,
yn rhydd o friwiau’r galon:
Yr Arglwydd rhwym ’cu brwiau’n iawn
y rhai dolur-lawn cleifion.
4Yr Arglwydd sydd yn rhifo’r ser,
a phob rhyw nifer honynt:
Ef a’i geilw hwynt oll yn glau,
Wrth briod enwau eiddynt.
5Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,
a phrydferth o rasoldeb:
Ac mae’n bell iawn uwch ben pob rhif,
son am ei brif ddoethineb.
6Yr Arglwydd unic sydd yn dal
i gynnal y rhai gweiniaid,
Ac ef a ostwng hyd y llawr
y dorf fawr annuwioliaid.
7Cenwch i’r Arglwydd mal y gwedd,
clodforedd iddo a berthyn:
O cenwch, cenwch gerdd i’n Duw,
da ydyw gyda’r delyn.
8Hwn â chymylau troes y nen,
â glaw’r ddayaren gwlychodd,
I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,
a llysiau’i ddynion parodd.
9Hwn i’r anifael ar y bryn
a rydd yr hwn a’i portho:
Fe bortha gywion y cigfrain,
pan fo’nt yn llefain arno.
10Nid oes gantho mewn grym un march,
na serch na pharch, na phleser:
Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,
fal dyna gyflwr ofer.
11Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn,
yr hwn y sy’n ei hoffi:
Ac sydd yn disgwyl cael ei nawdd,
caiff hwn yn hawdd ddaioni.
12O Caersalem gyfiawn o lwydd,
molianna’r Arglwydd eiddod:
O Seion sanctaidd, dod un wedd
i’th Dduw glodforedd barod.
13Herwydd yr Arglwydd â’i fawr wyrth
a wnaeth dy byrth yn gryfion:
A rhoes ei fendith, a thycciant,
ymlhith dy blant a’th wyrion.
14Hwn a roes heddwch yn dy fro,
fel y cynnyddo llwyddiant,
Ac a ddiwallodd yn eich plith,
o frasder gwenith, borthiant.
15Ei orchymyn ef a ddenfyn,
o’i ddown-fawr air cymhesur,
Hwn ar y ddaiar â ar led,
ac yno rhed yn brysur.
16Eirch i’r eira disgyn fel gwlân:
eirch rew, fe’i tân fel lludw,
17Eirch ia, fe ddaw yn defyll cri,
pwy’ erys oerni hwnnw?
18Wrth ei air eilwaith ar ei hynt,
fe bair i’r gwynt ochneidio
I doddi’r rhai’n, ac felly bydd
i’r holl afonydd lifo.
19Grym ei air, a’i ddehaulaw gref,
a ddengys ef i Jaco:
A’i ffydd a’i farn i Israel,
a’r rhai a ddel o hono.
20Ni wnaeth efe yn y dull hwn,
â neb rhyw nassiwn arall;
Ni wyddent farnu’r Arglwydd nef.
O molwch ef yn ddiball.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.