Y Salmau 8 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM VIIIDomine Dominus.Clod i Dduw, gan ryfeddu a diolch am gyflwr dyn.

1Arglwydd ein Ior ni a’n nerth,

mor brydferth wyd drwy’r hollfyd!

Dy enw, a’th barch, a roist uwchben

dayar a wybren hefyd.

2Peraist yt nerth o enau plant,

a rhai a sugnant beunydd,

Rhag d’elynion: tawed am hyn,

y gelyn a’r dialydd.

3Wrth edrych ar y nefoedd faith,

a gweld gwaith dy fysedd:

Y lloer, y ser, a threfn y rhod,

a’i gosod mor gyfannedd.

4Pa beth yw dyn yt’ iw goffau,

o ddoniau ac anwylfraint?

A pheth yw mâb dyn yr un wedd,

lle rhoi ymgeledd cymaint?

5Ti a wnaethost ddyn o fraint a phris,

ychydig is Angylion:

Mewn mawr ogoniant, parch, a nerth,

rhoist arno brydferth goron.

6Ar waith dy ddwylo is y nef,

y gwnaethost ef yn bennaeth:

Gan osod pob peth dan ei draed,

iddo y gwnaed llywodraeth.

7Defaid, gwartheg, a holl dda maes,

a’r adar llaes eu hesgyll:

Ehediaid nef, a’r pysg o’r don,

sy’n tramwy’r eigion erchyll.

8O Arglwydd ein Ior ni a’n nerth,

mor brydferth wyd drwy’r hollfyd,

Dy enw a’th barch a roist uwchben,

daiar ac wybren hefyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help