1Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd:
Oblegyd ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.
2Yr Arglwydd pwy all draethu ei nerth
a’i holl dirionferth foliant?
3A wnel gyfiownder gwyn eu byd,
ei farn i gyd a gadwant.
4O Arglwydd, cofia fi dy wâs,
yn ol dy râs i’r eiddod:
Ymwel â mi i’m cystudd caeth,
â’th iechydwriaeth barod.
5Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,
wych urddas d’etifeddaeth.
Ac y cydganwyf fawl un don,
a’th ddewisolion odiaeth.
6Pechod, camwedd, ac annoethedd,
gwnaethom gyda’n tadau:
Ef a gaed arnom ormod gwall,
heb ddeall dy fawr wyrthiau.
7Yng wlâd yr Aipht wrth y mor coch,
yn gyndyn groch anufydd:
Heb gofio amled fu dy râs
haeddasom atgas gerydd.
8Etto er mwyn ei enw ei hun,
Duw cun a ddaeth i’n gwared:
I beri i’r byd gydnabod hyn,
ei fod ef cyn gadarned.
9Y dyfnfor coch a’i ddyfrllyd wlych,
a wnaeth e’n sych â’i gerydd:
Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,
fel mynd rhyd ystlys mynydd.
10Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,
o ddwylaw eu caseion:
Ac y tywysodd ef ei blant
o feddiant eu gelynion.
11Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,
nid oedd un byw heb foddi:
12Yna y credent iw air ef,
a’i gerdd hyd nef ai’n wisgi.
13Er hyn, tros gof mewn amser byrr,
y rhoent ei bybyr wrthiau:
Heb sefyll wrth air un Duw Ior,
na’i gyngor, na’i ammodau.
14Ond cododd arnynt chwant a blys,
yn nyrys yr anialwch:
Gan demptio Duw â rheibus fol,
ynghanol y diffeithwch.
15Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,
rhoes an-nhycciannys aflwydd.
16Lle digient Foses wrth eu chwant,
ac Aron Sant yr Arglwydd:
17Egorai’r ddayar yn y man,
a llyngcai Ddathan ddybryd:
Ac a gynhullodd i’r un llam,
holl lu Abiram hefyd.
18Ac yn ei ddig enynnodd tân,
yn fuan yn eu canol:
Llosgi y rhai’n, eu terfyn fu,
yn ulw, y llu annulwion.
19Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun llo
ac iddo ymgrymmasant:
20I lun llo a borai wellt mân,
y troesan eu gogoniant.
21Anghofient wrthiau Duw ar hynt,
(a fuasai gynt achubwr.)
22Yng wlâd yr Aipht, mor coch, tir Ham,
heb feddwl am eu cyflwr.
23Dwedodd mai eu difetha wnai
oni bai i’w was Moesen
Drwy sefyll o’i blaen iw lid maith
droi ymaith eu drwg ddilen.
24Dirmygent hwy y prydferth dir,
ac iw air gwir ni chredent:
25Ond yn eu pebyll grwgnach tro,
ac arno ni wrandawent.
26Yno y derchafodd Duw ei law,
iw cwympiaw drwy’r anialwch:
27Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,
iw tanu mewn diffyrwch.
28A Baal Peor aent ynghyd,
ymgredu i gyd ag efo:
Ebyrth y meirwon a fwytent,
a Duw a roddent heibio.
29Fal hyn digiasant f’Arglwydd Dduw
â chyfryw goeg ddychmygion:
Yntau anfonodd bla’n eu mysg,
fal dyma derfysg greulon.
30Yna cyfododd Phinehes,
mewn cyfiawn wres i ddial:
A phan roes hwn ei farn yn dda,
Duw ar y pla rhoes attal.
31A chyfrifwyd y weithred hon,
yn weithred gyfion yntho,
O oes i oes (drwy air Duw Ion)
pan ddelai son amdano.
32Ac wrth lan dwfr Meribbah gynt,
yno ’y cyffroynt gynnen,
Lle’y digient Dduw â’i crasder ffraeth,
am hyn bu’n waeth i Foesen.
33Wrth gythruddo yspryd y Sanct,
hwy a barasant hefyd
Iw enau draethu gair ar fai,
ar na pherthynai’i ddwedyd.
34Ni laddent chwaith bobloedd y wlâd
wrth archiad Duw y lluoedd,
35Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,
a dysgu eu gweithredoedd.
36Gwasanaethu eu duwiau gau,
y rhai fu faglau iddyn.
37Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,
o serch i’r cythraul eulyn.
38A thywalltasant wirion waed,
dan draed gau-dduwiau Canaan.
Y tir (wrth aberthu eu plant)
gwaed llygrasant weithian.
39Felly o’i gweithredoedd eu hun,
yn un ymhalogasant.
Putteinio wrth ei cwrs a’i bryd,
ac felly cyd-lygrasant.
40Wrthynt enynnodd Duw mewn dig
am hyn â ffyrnig gyffro.
Câs a ffiaidd felly yr aeth
ei etifeddiaeth gantho.
41O’r achos hyn eu rhoddi a wnaeth
dan bob cenhedlaeth gyndyn,
Mewn cyflwr câs dan estron blaid,
a’i câs yn feistraid arnyn.
42Eu gelynion aethant yn ffrom,
a’i llaw fu drom a ffyrnig,
Felly y darostyngwyd hwy,
a mwyfwy fu eu dirmig.
43Mynych-waredodd Duw ei blant,
hwy a’i digiasant yntau
A’i cwrs eu hyn: daeth cystudd hir
am waith eu henwir feiau.
44Pan welai arnyn ing na thrais,
fo glywai llais eu gweddi,
45Gan gofio’i air troi nawdd a wnaeth
o’i helaeth fawr ddaioni.
46A throi yn drugarog a wnaeth,
y gwyr yn gaeth a’i cludynt,
Y rhai y buasai’n fawr eu câs:
cael mwy cwmwynas ganthynt.
47Achub innau o blith y rhai’n,
i arwain d’enw hyglod,
O Arglwydd Dduw, cymell ni’n gu
i orfoleddu ynod.
48Duw Israel bendigaid fydd,
yn dragywydd Jehoua:
A dweded yr holl bobl Amen,
molwch Dduw llen gorucha’.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.