1Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,
o wyllys calon hollawl,
Mewn cynnulleidfa gar eu bron,
mewn tyrfa gyfion rasawl.
2Mawr iawn yw gwrthiau’n Arglwydd ni
hysbys i bawb a’i hoffant.
3Ei waith a’i iownder pery byth,
a’i wehelyth ogoniant.
4Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,
am ryfeddodau nerthol.
Cans Arglwydd nawdd-fawr yw i ni,
llawn o dosturi grasol.
5Ef i bob rhai a’i hofnant ef,
rhydd gyfran gref at fywyd:
Ac yn dragywydd y myn fod
cof o’i gyfammod hefyd.
6Mynegodd ef iw bobl i gyd,
gadernyd ei weithredoedd:
A rhoddi iddynt hwy a wnaeth
’tifeddiaeth y cenhedloedd.
7Gwirionedd a barn ydyw gwaith
ei ddwy law berffaith efo:
A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,
a da y gwnawn eu gwrando.
8Y rhai’n sy gwedi eu sicrhau,
dros byth yn ddeddfau cyfion:
Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,
a thrwy wirionedd union.
9Anfonodd gymmorth iw bobl ef,
cyfammod gref safadwy:
Archodd hyn: bo iw enw sawl,
sancteiddiawl ac ofnadwy.
10Dechreuad pob doethineb ddofn
i bawb yw ofn yr Arglwydd,
Da yw deall y sawl a’i gwnai,
a’i ofn a sai’n dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.