1Fy enaid mola’r Arglwydd byw,
o f’Arglwydd Dduw y mawredd,
Mawr wyt, gogoniant a gai di,
ymwisgi ag anrhydedd.
2Megis ei ddillad y gwisg fo
am dano y goleuad:
Rhydd yn ei gylch yr wybr ar dân,
yn llydan, fel llen wastad.
3Ar ddeifr rhoes sail ei stefyll cau,
gwnaeth y cymylau iddo
Yn drwn olwynog: mae ei hynt
uwch esgyll gwynt yn rhodio.
4Gwnaeth bob chwythad iddo’n gennad,
gogonedd y ffurfafen:
A'i weinidogion o fflam dân,
a wibian rhyd yr wybren.
5Cref y rhoes sail y ddaiar gron,
fel na syfl hon oddiyno:
Yr hon a bery fel y rhoes,
o oes i oes, heb siglo.
6Tydi (Dduw) a ddilledaist hon
â’r eigion yn fantellau,
Ac oni bai dy ddehau law,
ai’r deifr uwchlaw y bryniau.
7Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,
fel pan y synio taran:
Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,
y deifr iw hol a lithran.
8Weithiau y codai’r deifr yn fryn:
weithiau fel glyn panhylent,
Lle y trefnaist iddynt bannwl cau,
ac weithiau y gorphwysent.
9Gosodaist derfyn lle yr arhont,
ac fel nad elont drosto:
Ac na ddelont hwy fyth dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio.
10Rhoes Duw ffynnon i bob afon,
a phawb a yfant beunydd:
A rhed y ffrydau rhyd y glynn,
a rhwng pob bryn a’i gilydd.
11Yfant yno anfeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwylltion,
Heb ymadael a llawr y nant,
hyd onid yfant ddigon.
12Ac adar awyr dont gar llaw,
i leisiaw rhwng y coedydd:
Yn canu ei fawl o bren i bren,
cethlyddiaeth lawen ufydd.
13Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fo wlych â glaw oddiarno:
A’r gwastad tir efe a’i gwlych,
bob grwn a rhych i ffrwytho.
14Parodd i’r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliaid: a’r llysiau,
Er da i ddyn: Lle rhoes o’r llawr,
ymborthiant mawr rhag angau.
15A gwin llawena calon dyn,
ag olew tywyn wyneb.
A bara nerthir calon gwr,
mewn cyflwr digonoldeb.
16Preniau’r Arglwydd o sugn llawn,
o’i unic ddawn y tyfan.
Sef y coed cedrwydd brigog mawr,
a roes e’n llawr y Liban.
17Lle y mae nythod yr adar mân,
mewn preniau glân cadeir-ir:
Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,
mae ty’r aderyn trwynhir.
18Y mynydd uchel a’r bryn glâs,
yw llwybr y danas fychod:
Ogof y doll-graig a wna les,
yn lloches i’r cwningod.
19Fe roes i’r lleuad i chwrs clau,
a’i chyfnewidiau hefyd:
A’r haul o amgylch y byd crwn,
fo edwyn hwn ei fachlyd.
20Tywyllwch nos a roed wrth raid,
i fwystfiliaid y coedydd.
21Y llewod rhuant am gael maeth
gan Dduw, ysclyfaeth bennydd.
22A chwedi cael yr ymborth hyn,
pan ddel haul attyn unwaith,
Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,
ac iw llochesau eilwaith.
23Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,
ac iw orchwyliaith esgyd:
Ac felly yr erys tan yr hwyr,
lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
24O Dduw, mor rhyfedd yw dy waith
o’th synwyr berffaith dradoeth!
Gwnaethost bob peth â doethder dawn,
a’r tir sy lawn o’th gyfoeth.
25A’r llydan for, y deifr ymmysg,
lle aml yw pysc yn llemmain:
Lle yr ymlusgant, rif yr od,
bwystfilod mawr a bychain.
26Yno yr â llongau glân
dros y Leuiathan heibo.
Yr hwn a osodaist di, lle y mae
yn cael ei chwrae yntho.
27Hwynt oll disgwiliant yn ei bryd
am gael oddiwrthyd borthiant:
I gael dy rodd ymgasglu ynghyd,
ie am ei bywyd byddant.
28Duw, pan agorech di dy law,
oddi yno daw daioni:
Pob anifail a phob rhyw beth,
a ddaw yn ddifeth ini.
29Pan guddiech di dy wyneb pryd,
a chasglu d’yspryd allan,
Crynant, trengant, ac ant iw llwch,
mewn diwedd trwch a thwrstan.
30Duw, pan ollyngech di dy râd,
fel rhoddi cread newydd,
Y modd hyn wyneb yr holl dir
a adnewyddir beunydd.
31Yr Arglwydd gogoneddus fydd
drwy fawr lawenydd bythoedd.
Yr Arglwydd yn ddiau a fedd,
orfoledd yn y nefoedd.
32Ein Duw o’r nef a edrych ar
y ddayar, a hi a dychryn.
Os cyffwrdd a’r mynyddoedd draw,
y mwg a ddaw o honyn.
33Canaf i’r Arglwydd yn fy myw,
canaf i’m Duw tra fythwyf:
34Mi a lawenhaf yn fy Ion,
bydd ffyddlon hyn a wnelwyf.
35Y trawsion oll o’r tir ânt hwy,
ni bydd mwy annuwiolion.
Fy enaid mola Duw yn rhodd:
mae hyn wrth fodd fy nghalon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.