1Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw,
lle y daw i’m help wyllysgar.
2Yr Arglwydd rhydd i’m gymmorth gref,
hwn a wnaeth nef a daiar.
3Dy droed i lithro ef nis gâd,
a’th geidwad fydd heb huno:
4Wele, ceidwad Israel lân,
heb hun na heppian arno.
5Ar dy law ddeau mae dy Dduw,
yr Arglwydd yw dy geidwad,
6Dy lygru ni chaiff haul y dydd,
ar nos nid rhydd i’r lleuad.
7Yr Ion a’th geidw rhag pob drwg,
a rhag pob cilwg anfad:
8Cai fynd a dyfod beth yn rhwydd,
yr Arglwydd fydd dy geidwad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.