Y Salmau 140 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXLEripe Domine.Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag dichellion ei elynion: a chan ei siccrhau ei hun o gymorth Duw, mae efe yn annog y cyfion i foli Duw eu helpwr.

1Rhag y gwr drwg gwared fi (Ner,)

rhag gwr y trowsder efrydd,

2Rhai sy’n bradychu yn ddirgel,

a chasglu rhyfel beunydd.

3Fel colyn sarph yn llithrig wau,

yw eu tafodau llymion:

Gwenwyn yr Asp sydd yn parhau

dan eu gwefusau creulon.

4Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws,

sy’n myfyr lliaws faglau,

Duw gwared fi, rhag gosod brâd,

ynghylch fy ngwastad lwybrau.

5Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,

wrth hon gosodwyd tannau:

Ar draws fy ffyrdd i ddal fy ’nrhoed,

ynghudd, y rhoed llinynnau.

6Dwedais wrth f’Arglwydd fy Nuw wyd,

tyn fi o’i rhwyd a’i maglau:

O gwrando’n fuan f’Arglwydd nef,

ar brudd lef fy ngweddiau.

7Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd,

a’m coel a’m iechyd calon:

Ti a roist gudd tros fy mhen mau,

yn nydd yr arfau gloywon.

8I’r dyn annuwiol, Duw, na âd

ddymuniad drwg ei ’wyllys:

Rhag ei wneuthur efo yn gry,

a’i fynd yn rhy drahâus.

9A’i holl ddymuniad drwg i mi,

a’i rhegen weddi greulon,

Y rhai’n yn llwyr a ddont ymmhen

y capten o’m caseion.

10Syrthied arnynt y marwor tân,

ac felly llosgan ymaith,

Bwrier hwynt mewn cau ffosydd nant,

fel na chyfodant eilwaith.

11Dyn llawn siarad fydd anwastad,

ni eistedd ef yn gryno:

A drwg a ymlid y gwr traws,

o hyn mae’n haws ei gwympo.

12Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dâl

i ddial cam y truan:

Ac yr iawn farna y dyn tlawd

sy’n byw ar gerdawd fechan.

13Y rhai cyfiawn drwy yr holl fyd,

dy enw a gyd-foliannant:

A’r holl rai union, heb ofn neb,

o flaen dy wyneb trigant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help