Y Salmau 56 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LVIMiserere mei.Dafydd yn achwyn rhag ei elynion: ac yn gofyn cymorth, ac yn ymddiried yn Nuw. Ac yn addaw ei foli ef yn ei Eglwys.

1Duw dy nawdd ym rhag marwol ddyn

hwn yn ei wyn a’m llyngcai:

Sef ymryfelu a mi bydd,

a beunydd i’m gorthrymmai.

2Llyncent fi beunydd o dra châs,

(dy râs o Dduw goruchaf)

Rhai beilch rhy dynion maent yn llu

yn poeth ryfelu arnaf.

3Y dydd y bai mwyaf fy ofn

rhown ynot ddofn ymddiried.

4Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,

doi yn ddidlawd i’m gwared.

5Yn fy ymadrodd i fy hun,

y ceisiant lun i’m maglu:

Ac ar bob meddwl a phob tro

y maent yn ceisio ’nrygu.

6Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,

a disgwyl fy holl gerdded,

Drwy ymfwriadu i mi loes,

a dwyn i’m heinioes niwed.

7A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,

dod iddynt ffrwyth f’enwiredd:

Disgyn y bobloedd yn dy lid,

Duw felly bid eu diwedd.

8Duw rhifaist bob tro ar fy rhod,

fy nagrau dod i’th gostrel:

Ond yw pob peth i’th lyfrau di

a wneuthym i yn ddirgel?

9Y dydd y llefwyf, gwn yn wir

dychwelir fy ngelynion:

Am fod drosof fy Nuw â’i law,

mi a wna y daw yn union.

10Gorfoleddaf yngair fy Nuw,

gair f’Arglwydd byw a folaf,

11Yn Nuw y rhoi ymddiried siwr,

beth a wnel gwr nid ofnaf.

12O Dduw mae arnaf fi yn ddled

llawer adduned ffyddlon,

Ac mi a’i talaf hwynt yn rhydd

i ti fy Arglwydd cyfion.

13Am yt ludd dwyn fy oes a’m gwaed,

a llestair i’m traed lithro,

Fel y rhodiwy’ fi gar dy fron

yngolau’r bywion etto.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help