Y Salmau 49 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XLIXAudite bac omnes.Yr Yspryd yn dangos nad y cyfoethoccaf y sydd ddedwyddaf, ond mai Duw sydd yn llywio pôb pêth.

1Gwrandewch chwi y bobloedd i gyd,

trigolion byd doellwch,

2Gwerin, tlawd, bonheddig, a chryf

cyfoethog hyf ystyriwch.

3O’m genau daw doethair didwyll,

â’m calon pwyll fyfyriaf,

4A’m clust gwrandawaf ddameg ddwys

â’m llais cerdd fwys a ganaf.

5Paham yr ofnaf ddrygau’r byd

yn amser adfyd atcas?

Pan fo anwiredd wedi cau,

wrth fy sodlau o’m cwmpas.

6Mae llawer rhai o wyr y byd,

mewn golud a’mddiriedant:

A thrwy siarad am werth, a rhi

y rhei’ni y rhodresant.

7Ond ni wareda neb mo’i frawd,

ni thâl yn ddidlawd drosto,

Ac mi chymer Duw y fâth dâl,

nac iawn mor sâl amdano.

8Sef pryniad enaid dyn drud sydd,

a hyn byth gorfydd peidio,

9Fel y gallo efe fyw byth,

heb fynd i nyth yr amdo.

10Gwelir mai’r bedd yw lletty’r doeth,

y ffol ar annoeth unwedd:

Marw yw’r naill, a marw yw’r llall

i arall gâd ei annedd.

11Meddwl am ei hadeilad byth,

yn ddilyth y parhâant:

Am hyn wrth eu henwau yn wir

henwau eu tir a alwant.

12Ni phery dyn o gnawdol dras,

mewn urddas er ei adail,

Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,

a derfydd fal anifail.

13Dyma eu ffordd, ffordd ffioledd fydd,

na welant ddydd yn passio.

Er hyn eu hil a ddel iw’ hol

fydd yn eu canmol etto.

14Angeu yw terfyn pob dyn byw,

i hwn nid yw ond tamaid:

Myned sydd raid o’r ty i’r bedd:

yn rhwym un wedd a’r defaid.

15Daw dydd i’r cyfion dranoeth teg,

daw ym’ ychwaneg ystyn:

Daw ym’ o’r bedd godiad i fyw,

deheulaw Duw a’m derbyn.

16Er codi o wr mewn parch neu dda,

nac ofna di un gronyn:

Ei olud ef, na’i barch, na’i dda,

i’r bedd nid â iw ddylyn.

17Hwn tra fu fyw yn rhodio llawr,

gwnai’n fawr o hono’i hunan,

Gwna honot ti dy hun yn fwy,

a hwynt hwy a’th ganmolan.

18At oes ei dadau hwn pan ddel,

â i’r bedd dirgel efrydd.

19Dyn mewn anrydedd heb ddeall

(fal llwdn o wall) a dderfydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help