Y Salmau 30 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XXXExaltabo te Domine.Dafydd cyn gysegru ei dy i Dduw a aeth yn glaf, ac wedi mynd yn iach mae fe yn diolch i Dduw, gan ddangos i eraill faint trugaredd Duw: adduned i fod yn ddiolchgar.

1F’Arglwydd mi a’th fawrygaf di,

cans myfi a ddyrchefaist,

A’m gelynion i yn llawen

uwchlaw fy mhen ni pheraist.

2Fy Nuw, pan lefais arnat ti

y rhoddaist i mi iechyd,

3Cedwaist fy enaid rhag y bedd,

a rhag diwedd anhyfryd.

4Cenwch i’r Ion chwi ei holl saint,

a maint yw gwyrthiau’r Arglwydd:

A chlodforwch ef gar ei fron:

drwy gofion o’i sancteiddrwydd.

5Ennyd fechan y sai’n ei ddig,

o gael ei fodd trig bywyd:

Heno brydnawn wylofain fydd,

y borau ddydd daw iechyd.

6Dywedais yn fy llwyddiant hir,

nim’ syflir yn dragywydd:

O’th ddaioni dodaist, Dduw Ner,

sail cryfder yn fy mynydd.

7Cuddiaist dy wyneb ennyd awr,

a blinder mawr a gefais.

8Arnad (o Arglwydd) drwy lef ddir,

fy Arglwydd, i’r ymbiliais.

9Pa fudd (o Dduw) sydd yn fy ngwaed,

pan rwyf dan draed yn gorwedd?

A phwy a gân yt’ yn y llawr,

dy glod a’th fawr wirionedd?

10Clyw fi Arglwydd, a thrugarhâ,

dod gymorth da i’m bywyd,

11Canys yn rhâd y troist fy mâr,

a’m galar, yn llawenfyd:

Am ytty ddattod fy sâch grys,

rhoist wregys o lawenydd:

12Molaf a chanaf â’m tafod,

i’m Arglwydd glod dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help