Y Salmau 86 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM LXXXVIInclina Domine.Dafydd yn gweddio ar Dduw am gymmorth, ac yn dymuno ar Dduw ei ddysgu ef. Ac y mae efe yn achwyn rhag ei elynion.

1Gostwng o Arglwydd y glust dau,

clyw fy ngweddiau trymion:

Gwrando fi sy’ druan a thlawd,

o’th barawd drugareddion.

2Cadw fy oes, gwr cynnwys wy’,

ac ytti’r ydwy’n credu:

Duw bydd achubwr da i’th wâs,

o’th râs dyrd i’m gwaredu.

3Trugarha wrthif Arglwydd mâd,

cans arnad llefa’n ddibaid:

4Einioes dy wâs Duw llawenhâ,

cans attad coda’ f’enaid:

5Cans ti o Arglwydd ydwyd dda,

i’th bobloedd a thrugarog,

I’r rhai a alwant arnat ti,

mae dy ddaioni’n bleidiog.

6O Arglwydd clyw fy llais mor llym,

a’m gweddi y’m myfyrdod:

7Clywi fy llais, gweli fy nghlwyf,

y dydd y bwyf i’m trallod.

8Ymysg y duwiau nid oes un,

fel dydi gun gogoned:

Ymysg gweithredoedd cymmain hun,

nid oes yr un un-weithred.

9Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)

o’th flaen don ac addolant:

A pha le bynnag ar y bont

i’th enw rhont ogoniant.

10Cans tydi ydwyd fawr a phur

yn gwneuthur rhyfeddodau:

A thydi’n unig wyd yn Dduw,

ni cheisiwn amryw dduwiau.

11Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)

câf rhwydd dy wirionedd:

Gwna fy nghalon yn un â thi,

ac ofnaf fi dy fawredd.

12Fy Arglwydd Dduw moliannaf di

â holl egni fy nghalon:

Ac i’th fawr enw byth gan dant,

y rhof ogoniant cyson.

13Cans mawr yw dy drugaredd di,

tu ac attaf fi yn barod,

Gwaredaist f’enaid i o’r bedd,

ac o’r gorddyfnedd isod.

14Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,

fel llu o weilch ewin-ddrud:

Ceisient ddwyn f’einioes o’r byd hwn,

i’w golwg gwn nad oeddud.

15Ond tydi’n unig wyd hawddgâr,

a chlaear dy drugaredd,

Hwyr i’th lid ac i gymmod hawdd,

llawn o nawdd a gwirionedd.

16O edrych arnaf, moes dy râs

i’th wâs y sydd i’th orllwyn:

Dod ym’ dy nerth, cadw fal hyn

fi, plentyn dy lawforwyn.

17O Dduw dod o’th serch ym’ arwydd,

er gwradwydd i’m caseion:

Pan welant dy fod yn rhoi nerth

ym’, ac ymadferth ddigon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help