Y Salmau 91 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XCIQui habitat.Dyma sicrhâd o ddedwyddwch y dyn a fo yn rhoi ei hyder ar Dduw rhag pob profedigaeth. Addewid Duw i’r rhai a’i hofnant ac a’i carant ef, o ddiogelrwydd a gogoniant tragwyddol.

1Y sawl a drigo, doed yn nes,

yn lloches y Goruchaf,

Ef a ymerys i gael bod

ynghysgod hwn sydd bennaf.

2Fy holl ymddiffyn wyd a’m llwydd,

wrth fy Arglwydd y dwedaf:

A’m holl ymddiried tra fwy fyw

sydd yn fy Nuw Goruchaf.

3Cans ef a weryd yr oes dau,

oddiwrth faglau yr heliwr:

A hefyd oddiwrth bla, a haint,

echrysaint, ac anghyflwr.

4Ei esgyll drosod ef a rydd,

dan ei adenydd byddi

Yn ddiogel: a’i wiredd gred

fydd gylch a bwccled itti.

5Ni ddychryni er twrf y nos,

na’r dydd o achos hedsaeth.

6Er haint, neu blâ mewn tywyll fydd,

neu hanner dydd marwolaeth.

7Wrth dy ystlys y cwympa mil,

a dengmil o’th law ddeau:

Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,

a thi a’i gwyl yn ddiau.

8A’th lygaid y gweli di dâl

i’r enwir gwammal anian.

9Sef fy holl obaith wyd (o Dduw)

ac uchel yw dy drigfan.

10Ni ddigwydd niwed yt’, ond da,

na phla, na dim’ echrydon,

I’th Eglwys a’th gynlleidfa nawdd,

11cans archawdd iw Angylion.

I’th ffyrdd dy gadw, a’th gynllwyn,

a’th ddwyn â’i dwylaw hardd-deg,

12Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)

taro dy droed wrth garreg.

13Dy sangfa fydd ar y llew dig,

a’r asp wenwynig sethri:

Ar greulon genau’r llew o’r graig,

ac ar y ddraig y sengi.

14Mi a’i gwaredaf ef rhag brâd,

am roi ei gariad arnaf:

Am adnabod fy enw mau,

yn ddiau y derchafaf.

15Geilw arnaf, mi’ ai gwrandawaf,

mewn ing y byddaf barod,

Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,

a chaiff drwy urddas fowrglod.

16Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd,

caiff yn y byd hir ddyddiau.

Dangosaf iddo radlawn faeth,

a’m iechydwriaeth innau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help