Y Salmau 144 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXLIVBenedictus Dominus.Dafydd yn moli Duw am iddo ynnill ei dyrnas, ac y mae fe yn dymuno eu tâl i’r annuwiol: ac yn dangos beth yw happus-rwydd cenedl.

1Bendigaid for Arglwydd fy nerth,

mor brydferth yr athrawa

Fy nwylo’i ymladd, a’r un wedd,

fy mysedd i ryfela.

2Fy nawdd, fy nerth, fy nug, fy nghred,

fy nhwr, f’ymwared unig:

Cans trwyddo ef fy mhobl a gaf

tanaf yn ostyngedig.

3Pa beth yw dyn, dywaid o Dduw,

pan fyddyt iw gydnabod?

A mab dyn pa beth ydyw fo,

pan fych o hono’n darbod?

4Pa beth yw dyn? peth yr un wedd

a gwagedd heb ddim honno:

A'i ddyddiau’n cerdded ar y rhod,

fal cysgod yn myned heibio.

5Gostwng y nefoedd: Arglwydd da,

ac edrych draha dynion:

Duw cyffwrdd a’r mynyddoedd fry,

gwna iddynt fygu digon.

6Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,

iw lladd gyrr saethau tanbaid.

7Discyn, tyn fi o’r dyfroedd mawr:

hyn yw, o law’r estroniaid.

8Duw gwared fi. Geneuau ’rhai’n

a fydd yn arwain gwegi:

A'i dehau law sy yr un bwyll,

ddeheulaw twyll, a choegni.

9I ti Dduw, canaf o fawrhad,

yn llafar ganiad newydd:

Ar nabl, ac ar y deg-tant,

cei gerdd o foliant beunydd.

10Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,

ei swccraeth at iawn reol:

Dan ymwared Dafydd ei was,

rhag cleddyf cas niweidiol.

11Duw gwared, achub fi wrth raid,

rhag plant estroniaid digus:

A’i safn yn llawn o ffalsder gau,

ba’i dehau yn dwyllodrus.

12Bydd ein meibion mal planwydd cu,

o’r bon yn tyfu’n iraidd:

A’n merched ni fel cerrig nadd,

mewn conglau neuadd sanctaidd.

13A’n conglau’n llawnion o bob peth,

a’n defaid, difeth gynnydd,

Yn filoedd (mawr yw’r llwyddiant hwn)

a myrddiwn i’n heolydd.

14A’n hychen cryfion dan y wedd,

yn hywedd, ac yn llonydd:

Heb dorr na soriant i’n mysg ni,

na gwdeiddi i’n heolydd.

15Dedwydd ydyw y bobl y sy,

a phob peth felly ganthynt:

Bendigaid yw’r bobl y rhai’n yw,

a’r Arglwydd yn Dduw iddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help