1O cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,
a’i holl wrth-flinder hefyd:
2Pa lw adduned a roes fo
i Dduw Jaco, gan dwedyd,
3Nid âf o fewn pabell fy nhy,
a’m gwely mwy nis dringaf:
4Ni roddaf i’m dau lygad hun,
amrantun chwaith ni chysgaf:
5Nes caffwyf gyflo yn ddi rus,
i Arglwydd grymus Jaco.
6Wele’n Ephrata clywsom fod
lle o breswylfod iddo.
Cawsom hi ym meusydd y coed.
7Pawb doed iw bebyll tirion:
Awn, ymgrymwn, pawb ufyddhaed,
wrth ei faingc droed yn union.
8F’arglwydd, cyfod i’th esmwyth lys,
a’th arch o rymmus fowredd.
9Gwisged d’offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.
10Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,
na thyn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wyneb dy enneiniog.
11I Ddafydd rhoes yr Ion iw gwir,
a chedwir hwn heb wyredd:
O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,
it iraidd gaingc i eistedd.
12Fy neddfau a’m cyfammod i,
dy feibion di os cadwant:
O blann i blann o gaingc i gaingc,
hwy ar dy faingc a farnant.
13Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,
a rag-ddewisodd Seion:
I drigo ynthi rhoes ei fryd,
gan ddwedyd geiriau tirion:
14Hon fyth fydd fy ngorphwysfa i,
o hoffder ynthi trigaf.
15Bendithiaf hi â bwyd di ball,
a’i thlawd diwall o fara.
16Ag iechydwriaeth, medd Duw naf,
y gwisgaf ei heglwyswyr:
A rhoddaf yngenau pob Sanct
o’i mewn, ogoniant psallwyr.
17Paraf hyn oll, ac felly y bydd,
corn Dafydd yn goronog:
Felly darperais, gan fy mhwyll,
brif ganwyll i’m eneiniog.
18Am ei elynion, o bob parth,
y gwiscaf warth a gwradwydd,
Paraf hefyd iw goron fo
flodeuo: medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.