1Y ty ni adeilado’r Ner,
ai’n ofer gwaith y saeri:
A’r ddinas hon nis ceidw efo,
ni thyccia gwilio ynthi.
2Is borau godi, os hun hwyr,
a byw drwy llwyr ofidio,
Ofer i gyd: Duw a rydd hun
i bob rhyw un a’i caro.
3Wele, y plant a roir i ddyn,
hiliogaeth yn i’r Arglwydd:
Ac o’i rodd ef daw ffrwyth y bru,
iw magu mewn sancteiddrwydd.
4Fel gwr cryf, ple bynnag y daw,
ac yn ei law ei saethau:
Plant yr ieuenctyd felly y maen
yn barch o flaen y tadau.
5Sawl honynt sydd a’i gwifr yn llawn,
mae’n ddedwydd iawn ei foddion:
Hwy nis gwradwyddir pan ddel man
i’mddiddan â’r gelynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.