Y Salmau 114 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXIVIn exitu Israel.Y mae mynediad Israel o gaethiwed yn dwyn ar gof i ni faint yw trugaredd Duw iw blant, a maint ein anniolchgarwch ninnau iddo ef.

1Pan ddaeth Israel o’r Aipht faith:

A thy Jaco o estron iaith,

2Juda oedd ei sancteiddrwydd ef,

Israel oedd benaethiaeth Ior.

3Gwelodd hyn a chiliodd y mor,

a throes iw hol Iorddonen gref.

4Neidiai’r mynyddoedd megis hyrdd:

A’r bryniau mal wyn llament ffyrdd,

cawsant wastad megis llawer dol.

5Ciliaist (o for) dywaid pa ham?

Tithau Iorddonen lathraidd lam,

p’am y dadredaist dithau d’ol?

6Chwychwi fynyddoedd p’am y ffoech,

Fel hyrddod? a ph’am nad arhoech?

a chwithau fryniau fal wyn man?

7Am mai rhaid ofni Duw Jaco,

8Yr hwn sy’n troi’r graig yn llyn tro,

a’r callestr yn ffynnon-ddwfr glan.

Gogoniant fyth, &c. fel yn y Psalm 113.
Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help