Y Salmau 98 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XCVIIICantate Domino.Annog pob creadur i foli Duw, am ei allu, a’i drugaredd, a ffyddlondeb ei gyfammod ynghrist, drwy’r hwn y mae ein cadwedigaeth ni.

1Cenwch i’r Arglwydd newydd gân,

ei waith fu lân ryfeddod:

Ei law ddeau a’i fraich a wnaeth,

i’n iechydwriaeth parod.

2Yr Arglwydd hysbys in’ y gwnaeth

ei iechydwriaeth gyhoedd:

A’i gyfiownder ef yn dra hawdd

datguddiawdd i’r cenhedloedd.

3Fe gofiodd ei drugaredd hir,

a’i wir i dy Israel,

Fel y gwelodd terfynau’r byd

ei iechyd yn ddiymgel.

4I’r Arglwydd â chaniad llafar,

chwi yr holl ddaiar cenwch:

A llafar lais, ac eglur lef,

fry hyd y nef y lleisiwch.

5Cenwch i’r Arglwydd Dduw fal hyn

â’r delyn, a chywirdant:

A chydâ’r delyn lais a thon,

rhowch iddo gyson foliant.

6Canu yn llafar ac yn rhwydd,

o flaen yr Arglwydd Frenin:

Ar yr udgyrn, a’r chwŷthgyrn pres,

fel dyna gyffes ddibrin.

7A rhued y mor mawr i gyd,

a’r byd, ac oll sydd ynthynt,

8Y llifddyfroedd, a’r mynyddoedd,

y mae yn addas iddynt.

9Curant, canant, o flaen Duw cu,

yr hwn sy’n barnu’r bydoedd.

I’r byd y rhydd ei farn yn iawn,

ac yn uniawn i’r bobloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help