Y Salmau 103 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CIIIBenedic anima.Y mae’n cynghori pob creadur i foli yr Arglwydd am ei aneirif drugareddau, a’i ymwared i’r ffydloniaid.

1Fy enaid mawl sanct Duw yr Ion,

a chwbl o’m eigion ynof.

2Fy enaid n’âd fawl f’Arglwydd nef,

na’i ddoniau ef yn angof.

3Yr hwn sy’n maddau dy holl ddrwg,

yr hwn a’th ddwg o’th lesgedd:

4Yr hwn a weryd d’oes yn llon,

drwy goron a’i drugaredd.

5Hwn a ddiwalla d’enau di

â’i lawn ddaioni pybyr:

Drwy adnewyddu yt’ dy nerth,

mor brydferth a’r hen eryr.

6Yr Ion cyfiawnder, barn a wnai

i’r rhai sydd orthrymedig.

7Dangos a wnaeth ei brif-ffyrdd hen

i Foesen yn nodedig:

Ac i Israel ei holl ddawn.

8Duw llawn yw o drugaredd:

Hwyr yw ei lid, parod ei râd,

fal dyna gariad rhyfedd.

9Nid ymryson ef â ni byth,

nid beunydd chwyth digofaint,

10Nid yn ol ein drygau y gwnai

â ni: ni’n cosbai cymmaint.

11Cyhyd ac yw’r ffurfafen fawr

oddi ar y llawr o uchder,

Cymaint i’r rhai a’i hofnant ef,

sydd nawdd Duw nef bob amser.

12Os pell yw’r dwyrain olau hin

oddiwrth orllewin fachlud:

Cyn belled ein holl bechod llym,

oddiwrthym ef a’i symmud.

13Ac fel y bydd nawdd,

serch, a chwant

tâd da iw blant naturiol,

Felly cawn serch ein tâd o’r nef,

os ofnwn ef yn dduwiol.

14Efe a’n hedwyn ni yn llwyr,

fe wyr mai llwch yw’n defnydd:

15Oes dyn fel gwellt-glas sy’n teghau,

neu ddail, neu flodau maesydd.

16Yr hwn, cyn gynted ac y del

y gwynt â’i awel drosodd:

A chwythir ymaith felly o’i le,

na wyddis ple y tyfodd.

17Ond graslawn drugaredd a fydd,

yn lân dragywydd feddiant,

O oes i oes heb drangc, heb drai,

gan Dduw i’r rhai ai’ hofnant.

18A’i gyfiownder i blant y plant

a gadwant ei gyfammod:

O chofiant ei orchmynion ef,

mae tyrnas nef yn barod.

19Yno y mae ei orseddfa ef,

sef yn y nef tragwyddol:

A llywio y mae ef bob peth,

drwy ei frenhinieth nefol.

20Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion,

angylion, a’i holl gedyrn.

Ei lân orchymmyn ef a wnewch,

a’i lais gwrandewch yn drachwyrn.

21Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner,

ei luoedd tyner tirion.

Ei wyllys gwnewch, canlynwch wir,

chwychwi ei gywir weision.

22Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef,

ei hollwaith ef sy hylwydd:

Ymmhob mân oll o’i drefn a’i hawl,

O f’enaid mawl di’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help