Y Salmau 48 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XLVIIIMagnus Dominus.Diolch i Ddruw dros Jerusalem.

1Mawr ei enw’n ninas ein Duw,

a hynod yw yr Arglwydd:

A’i drigfan ef yno y sydd,

ym mynydd ei sancteiddrwydd.

2Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,

yw Seion lathriad fynydd,

Yn ystlysau y gogledd lawr,

tre’r brenin mawr tragywydd.

3Adweinir Duw ’mhalasau hon

yn gymorth digon hynod.

4Ac wele nerth brenhinoedd byd

doent yno i gyd-gyfarfod.

5A phan welsant, rhyfedd a fu,

ar frys brawychu rhagor.

6Dychryn a dolur ar bob ffaig,

fel dolur gwraig wrth esgor.

7Ti â dwyreinwynt drylli’n frau

eu llongau ar y moroedd.

8Fel y clywsom y gwelsom ni,

yn ninas rhi’ y lluoedd:

Sef hyn yn ninas ein Duw ni,

sicrha Duw hi byth bythoedd.

9Duw disgwyliasom am dy râs

i’th deml, ac addas ydoedd.

10Duw, fel yr aeth dy enw o hyd,

felly drwy’r byd i’th folir.

Dy law ddeau y sydd gyflawn,

a chyfiawn i’th adweinir.

11A bryn Sion a lawenhâ,

a merched Juda hefyd:

A'i llawenydd hwy yn parhau

O ran dy farnau hyfryd.

12Ewch, ewch, oddiamgylch Sion sail,

a’i thyrau adail rhifwch.

Ei chadarn fur a’i phlasau draw

i’r oes a ddaw mynegwch.

13Cans ein Duw ni byth yw’r Duw hwn

hyd angau credwn yntho.

A hyd angau hwnnw a fydd

yn dragywydd i’n twyso.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help