Y Salmau 129 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXXIXSape expugnauerunt.Cynghori y mae i’r eglwys ymlawenhau, er bod erlidwyr ym mhob oes. Duw a’i gweryd hi, ac a fathr ei chaseion.

1Llawer gwaith cefais gystudd mawr,

Israel yn awr dyweded,

O’m hieuenctyd hyd yr awr hon,

fe wyr fy mron eu trymed.

2A llawer gwaith y cefais lid,

o’m gwan ieuengctid allan:

A blin gystudd ar lawer tro,

ac etto ni’m gorfuan’.

3Yr arddwyr arddent y cefn mau,

drwy rhwygo cwysau hirion:

4Y cyfion Ner torrodd yn frau,

bleth-didau’r annuwiolion.

5Pa rai bynnag a roesant gâs

ar degwch dinas Seion,

Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,

y rhai annuwiol creulon.

6Byddant fel y glâs wellt a fai

ar bennau tai yn tyfu,

Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,

yn gwywo, ac yn methu.

7Ni leinw’r medelwr ei law,

ni chair o honow ronyn:

I’r casclwyr nis tal ddim mo’i droi,

na’i drin, na’i roi mewn rhwymyn.

8Fel na bai byth gwiw gan y rhai

ar a dramwyai heibio,

Ddwedyd unwaith, Duw a ro llwydd,

neu’r Arglwydd a’ch bendithio.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help