Y Salmau 28 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM XXVIIIAd te Domine.Gweddi trosto ei hun, yn erbyn rhai trahaus ar Dduw a dyn: a bendithio’r eglwys.

1Attad (Ion fy nerth) y rhof lef,

Duw nef na fydd di fyddar:

Os tewi, rhag fy mynd mor drist,

a bod mewn cist dan ddaiar.

2O Arglwydd, erglyw fy llais i,

a derbyn weddi bruddaidd:

Pan gottwyf fy nwy law o bell,

Duw, tua’th gafell sanctaidd.

3Ac na ddarostwng fi, fy Ior,

dan ddwylo’r annuwiolion

Y rhai sy’n arwain minau mel,

a rhyfel yn eu calon.

4Yn ol bwriad eu calon gau,

a’r twyll ddyfeisiau eiddynt,

Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,

Duw tâl eu gobrwy iddynt.

5Am na ’styriant weithredoedd Duw,

ef a wna ddistryw arnynt:

Ac na welent ei wyrth a’i râd,

ni wna adeilad honynt.

6Bendigaid fyddo’r Arglwydd nef,

fe glybu lef fy ngweddi.

7Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m rhan,

a’m tarian, a’m daioni.

Ymddiriedais iddo am borth,

a chefais gymorth gantho.

Minnau o’m calon, drwy fawr chwant,

a ganaf foliant iddo.

8Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhai

a ymddiriedai’n hylyn:

A’i eneiniog ef fydd maeth,

ac iechydwriaeth iddyn.

9Gwared dy bobl dy hun yn dda,

bendithia d’etifeddiaeth.

Bwyda, cyfod hwy, am ben hyn

dod iddyn dragwyddolfaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help