Y Salmau 131 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXXXIDomine non est.Dafydd yn ymwrthod â blarchder gar bron Duw.

1Yn fy nghalon ni bu falch chwydd,

o Arglwydd, na dim tynder,

Ni chodais chwaith drahaus wg

i’m golwg o dra uchder.

2Ac ni rodiais yma a thraw,

i dreiglaw pethau mowrion:

Ni fanwl chwiliais am wybod

rhyfeddod a dirgelion.

3Gostyngais f’enaid i mewn pryd,

fel pan ddiddyfnyd herlod:

Fy enaid sydd fel un a fu

gwedi ei ddiddyfnu’n barod.

4Ond disgwilied ty Israel

wrth wir Imanuel beunydd,

Sef wrth yr Arglwydd o’r pryd hyn,

heb derfyn yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help