1Datcanaf drugaredd a barn,
i’r Arglwydd cadarn canaf.
2Byddaf ddeallus mewn ffordd wych,
hyd oni ddelych attaf.
A rhodiaf yn fy nhy yn rhwydd,
a thrwy berffeithrwydd calon.
3Pob peth drwg sydd gennif yn gâs,
a childyn ddyrras ddynion.
4Calon gyndyn ynof ni bydd,
drwg weithydd ni ’dnabyddaf.
5Sclandrwr dirgel, a’r balch uchel
o’r achos ni oddefaf.
6Ar ffyddloniaid mae ’ngolwg i,
fe lyn y rhei’ni wrthy’:
7A’r hwn a rodio mewn ffordd dda,
hwn a wasnaetha ymmy.
8Ni chaiff aros o fewn fy nhy,
un dyn ac sy dwyllodrus,
Yn fy ngolwg un dyn ni bydd,
a lunio gelwydd trefnus.
9Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,
yn forau ymaith torraf:
Fel da ddelont i ddinas Dduw,
y cyfryw a ddiwreiddiaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.