Y Salmau 112 - Welsh Metrical Psalms 1621 (Edmwnd Prys)

SALM CXIIBeatus vir.Mawl dedwyddwch y rhai a ofnant Dduw. A dangos melldith iw ddirmygwyr ef.

1Dedwyddol yw mewn buchedd dda,

y sawl a ofna’r Arglwydd:

A’i orchymynion anwyl ynt,

bydd iddo helynt hylwydd.

2Ei hâd fydd nerthol yn y tir,

bendithir hil rhai union:

3Golud a chyfoeth yn ei dy,

tros byth y pery’n gyfion.

4Yr union yn y tywyll cau

caiff fodd i olau weled:

Ystyriol a thosturiol iawn,

a chyfiawn fydd ei weithred.

5Gwr da a fydd trugarog fwyn,

rhydd echwyn a chymwynas:

A’i air mewn pwyll a barn a rydd,

a’i weithred sydd yn addas.

6Ni ’sgogir byth y cyfiawn, gwna

ei goffa yn dragywydd:

7A chalon ddisigl, ddwys, ddiofn,

a sail ddofn yn yr Arglwydd.

8Hwn yn nerth Duw diofnog fydd,

ac atteg sydd iw galon:

Hyd oni chaffo drwy lawn wys,

ei wyllys o’i elynion.

9Rhannodd a rhoes i’r tlawd yn hy,

byth pery ei gyfiownedd:

A chryfder ei goron yn wir,

dyrchefir mewn gogonedd.

10Yr anwir edrych, ffromma o ddig,

drwy ffyrnig ysgyrnygiad:

Yr annuwiol a dawdd: fal hyn

fydd terfyn eu dymuniad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help