1Wele fi yn anfon fy nghenad;
Ac efe a barotoa ffordd o’m blaen:
Ac yn ddisymwth y daw i’w deml,
Yr Arglwydd yr hwn yr ydych yn ei geisio,
A chenad y cyfamod yr hwn a hoffwch,
Wele y mae yn dyfod;
Medd Arglwydd y lluoedd.
2A phwy a all oddef dydd ei ddyfodiad ef;
A phwy a saif pan ymddangoso Efe:
Canys efe a fydd fel tân toddydd;
Ac fel sebon golchyddion.
3Ac efe a eistedd yn doddydd a phurwr arian;
Ac efe a bura feibion Lefi ac a’u coetha hwynt;
Fel yr aur ac fel yr arian:
A hwy a fyddant i’r Arglwydd.
Yn offrymu offrwm mewn uniondeb.
4A melus gan yr Arglwydd;
Fydd offrwm Iudah a Ierusalem;
Megis y dyddiau gynt;
Ac megis y blynyddoedd o’r blaen.
5A mi a nesaf atoch i farn,
A byddaf dyst cyflym,
Yn erbyn y swynyddion ac yn erbyn y godinebwyr;
Ac yn erbyn y rhai a dyngant yn gelwyddog:
Ac yn erbyn y rhai a orthrymant gyflogedig am gyflog,
Gweddw ac ymddifad,
Ac a droant ddyeithr o’r neilldu,
Ac ni’m hofnant I;
Medd Arglwydd y lluoedd.
6Canys myfi yr Arglwydd ni newidiais:
A chwithau meibion Jacob ni ddyfethwyd.
7Hyd o ddyddiau eich tadau y troisoch oddiwrth fy neddfau,
Ac nis cadwasoch hwynt;
Dychwelwch ataf fi,
A mi a ddychwelaf atoch chwi;
Medd Arglwydd y lluoedd:
A chwi a ddywedwch,
Yn mha beth y dychwelwn.
8A ysbeilia dyn Dduw,
Chwi yn ddiau ydych yn fy ysbeilio I;
A dywedasoch,
Yn mha beth i’th ysbeiliasom di:
Yn y degwm a’r offrwm.
9Gan y felldith yr ydych yn felldigedig:
A myfi ydych yn ysbeilio:
Yr holl genedl hon.
10Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordŷ,
A bydded bwyd yn fy nhŷ;
A phrofwch fi yn awr yn hyn;
Medd Arglwydd y lluoedd:
Onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd;
A thywallt o honof i chwi fendith,
Hyd na bo digon o le iddi.
11A mi a ataliaf i chwi y difäydd;
Ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear:
Ac ni chyll i chwi y winwydden yn y maes;
Medd Arglwydd y lluoedd.
12A’r holl genedloedd a’ch galwant yn wynfydedig:
Canys byddwch chwi yn wlad hyfryd;
Medd Arglwydd y lluoedd.
13Celyd fu eich geiriau i’m herbyn, medd yr Arglwydd:
A chwi a ddywedasoch,
Pa beth a ddywedasom ni i’th erbyn di.
14Dywedasoch,
Oferedd yw gwasanaethu Duw:
A pha enill sydd o gadw o honom ei gadwraeth ef;
A rhodio o honom yn alarus:
Gerbron Arglwydd y lluoedd.
15Ac yn awr yr ydym ni yn cyfrif beilchion yn wynfydedig:
Ië, adeiladwyd gwneuthurwyr drygioni;
Ië, temtiasant Dduw,
A gwaredwyd hwynt.
16Yna y rhai oeddent yn ofni yr Arglwydd a lefarasant y naill wrth y llall;
A chlybu yr Arglwydd ac a wrandawodd;
Ac ysgrifenwyd llyfr coffawdwriaeth ger ei fron ef,
I’r rhai oeddent yn ofni yr Arglwydd;
Ac i’r rhai oeddent yn meddwl am ei enw ef.
17A byddant i mi,
Medd Arglwydd y lluoedd;
Yn berchenogaeth ar y dydd wyf fi yn osod:
A thosturiaf wrthynt;
Fel y tosturia gwr wrth ei fab;
Yr hwn sydd yn ei wasanaethu.
18A chwi a welwch eto;
Ragor rhwng uniawn a drygionus;
Rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw;
Ar hwn nis gwasanaetho ef.
19Canys wele y dydd yn dyfod;
Yn llosgi megis y ffwrn:
A bydd yr holl feilchion a phob gwneuthurwr drygioni yn sofl;
A’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt,
Medd Arglwydd y lluoedd;
Yr hwn ni âd iddynt wreiddyn na changen.
20A chyfyd i chwi y rhai a ofnwch fy enw haul iawn;
A meddyginiaeth yn ei esgyll:
A chwi a ewch allan ac a lemwch fel lloi pasgedig.
21A sethrwch annuwiolion;
Canys byddant yn lludw;
Dan wadnau eich traed:
Yn y dydd yr wyf fi yn osod;
Medd Arglwydd y lluoedd.
22Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas;
Yr hyn a orchymynais iddo yn Horeb wrth holl Israel;
Yn ddeddfau a barnedigaethau.
23Wele fi yn anfon atoch;
Elias y proffwyd:
Cyn dyfod dydd yr Arglwydd;
Y dydd mawr ac ofnadwy.
24Ac efe a dry galon tadau at blant;
A chalon plant at eu tadau:
Rhag i mi ddyfod a tharo o honof y ddaear â melldith.
כל הנשמה תהלל יה
𝝙𝝤𝝣𝝖 𝝚𝝢 𝝪𝝭𝝞𝝨𝝩𝝤𝝞𝝨 𝝷𝝚𝝮.
SIT DEO LAUS SEMPITERNA.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.