1A mi a ddywedais,
Gwrandewch atolwg benaethiaid Jacob;
A llywiawdwyr tŷ Israel:
Onid i chwi;
Y perthyn gwybod y farn.
2Y rhai a gashewch ddaioni,
Ac a gerwch ddrygioni:
Y rhai a flingwch eu croen oddiam danynt;
A’u cnawd oddiam eu hesgyrn.
3A’r rhai a fwytant gnawd fy mhobl;
Ac a ddiosgant eu croen oddiam danynt;
Ac a ddrylliant eu hesgyrn:
Ac a friwiant megys yn y crochan;
Ac fel cig mewn pair.
4Yna y llefant ar yr Arglwydd;
Ac nis etyb hwynt:
Ac efe a guddia ei wyneb oddiwrthynt yn yr amser hwn;
Yn ol fel y bu eu gweithredoedd yn ddrwg.
5Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am y proffwydi ag a wnant i’m pobl gyfeiliorni:
Y rhai a gnoant â’u danedd,
Ag a lefant heddwch:
A’r neb ni roddo i’w safn hwynt;
Darparant ryfel yn ei erbyn.
6Am hyn y bydd
nos i chwi rhag caffael gweledigaeth;A thywyllwch i chwi rhag dewinio:
A mechlyd yr haul ar y proífwydi;
A’r dydd a ddûa arnynt.
7A’r gweledyddion a gywilyddiant,
A dewiniaid a wridiant;
A phawb o honynt a guddiant ar eu gwefus:
Am na rydd Duw ateb.
8Ond er hyny llawn wyf fi o nerth gan ysbryd yr Arglwydd;
Ac o farn a chadernid;
A fynegi i Jacob ei anwiredd;
Ac i Israel ei bechod.
9Gwrandewch hyn, atolwg,
Benaethiaid tŷ Jacob;
A llywiawdwyr tŷ Israel:
Y rhai a ffieiddiant farn;
Ac a wyrant bob uniondeb.
10Gan adeiladu Sion â gwaed:
A Jerusalem âg anwiredd.
11Ei phenaethiaid a farnant am wobr,
A’i hoffeiriaid a ddysgant am dâl;
A’i phroffwydi a ddewiniant am arian:
Ac ar yr Arglwydd y pwysant,
Gan ddywedyd,
Onid yw yr Arglwydd i’n plith;
Ni ddaw ddrygfyd arnom.
12Am hyny o’ch achos chwi;
Yr erddir Sïon yn faes:
A Jerusalem a fydd yn garneddau;
A mynydd y tŷ yn glogwyni gallt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.