1Wele ddydd i’r Arglwydd yn dyfod:
A rhenir dy ysbail yn dy ganol.
2A mi a gasglaf yr holl genedloedd i Ierusalem i ryfel;
A chymerir y ddinas,
Ac anrheithir y tai;
A’r gwragedd a dreisir:
A haner y ddinas a â allan mewn caethiwed;
A gweddill y bobl;
Nis torir ymaith o’r ddinas.
3A’r Arglwydd a â allan;
Ac a ryfela â’r cenedloedd hyny:
Megys y dydd y rhyfeloedd efe yn nydd y frwydyr.
4A’i draed a safant yn y dydd hwnw ar fynydd yr Olewydd,
Yr hwn sydd ar gyfer Ierusalem o’r tu dwyrain:
A holltir mynydd yr Olewydd o’i haner tua’r dwyrain a thua’r gorllewin,
Yn ddyffryn mawr iawn:
A haner y mynydd a symud tua’r gogledd,
A haner iddo tua’r deheu.
5A chwi a ffowch i ddyffryn fy mynyddoedd,
Canys cyrhaedd dyffryn mynyddoedd i Atsal;
A chwi a ffowch fel y ffoisoch rhag y ddaeargryn;
Yn nyddiau Uzziah brenin Iudah:
A daw yr Arglwydd fy Nuw;
Yr holl rai santaidd gyda thi.
6A bydd yn y dydd hwnw:
Na bydd goleuni;
Rhai gwychion a ymataliant.
7A bydd un diwrnod,
Hwnw a adwaenir gan yr Arglwydd,
Nid dydd ac nid nos:
A bydd at bryd hwyr y bydd goleuni.
8A bydd yn y dydd hwnw,
Yr ant allan ddyfroedd bywiol o Ierusalem;
Eu haner hwynt tua môr y dwyrain;
A’u haner hwynt tua môr y gorllewin:
Yn yr hâf ac yn y gauaf y bydd.
9A bydd yr Arglwydd yn frenin ar yr holl dir:
Yn y dydd hwnw,
Yr Arglwydd yn unig fydd,
A’i enw yn unig.
10Troir yr holl dir megys gwastadedd o Geba i Rimon;
Ar ddeheu Ierusalem:
A hi a gyfyd ac a erys yn eu lle,
O borth Beniamin hyd le y porth cyntaf,
Hyd borth y conglau;
A o dwr Chananeel,
Hyd gafnau gwin y brenin.
11A thrigir ynddi;
A melldith ni bydd mwyach;
A Ierusalem a erys mewn diogelwch.
12A hyn fydd y pla;
A’r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd;
Y rhai a wersyllant yn erbyn Ierusalem:
Cnawd un a dderfydd,
Ac yntau yn sefyll ar ei draed;
A’i lygaid a ddarfyddant yn eu tyllau,
A’u tafod a dderfydd yn eu genau.
13A bydd yn y dydd hwnw;
Y bydd dychryn mawr oddiwrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt:
Ac ymaflant un yn llaw ei gymydog.
A’i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog.
14A Iudah hefyd a ryfela yn Ierusalem:
A chesglir golud yr holl genedloedd o amgylch,
Yn aur ac arian a dillad lawer iawn.
15Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, a’r asyn,
A phob anifail;
Yr hwn a fydd yn y gwersylloedd hyn: Fel y pla hwn.
16A bydd i bawb ag a weddillwyd o’r holl genedloedd;
Y rhai a ddaethant yn erbyn Ierusalem;
I fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn,
I ymgrymu i’r Brenin Arglwydd y lluoedd;
Ac i gadw gwyl y pebyll.
17A bydd ar y sawl nad elo i fyny o deuluoedd y wlad i Ierusalem;
I ymgrymu i’r Brenin Arglwydd y lluoedd:
Na bydd y gwlaw arnynt.
18Ac os teulu yr Aipht nid â i fyny ac ni ddaw,
Ni bydd arnynt hwy:
Y pla fydd a’r hwn y tery yr Arglwydd y cenedloedd;
Y rhai nid ant i fyny i gadw gwyl y pebyll.
19Hyn fydd pechod yr Aipht:
A phechod yr holl genedloedd;
Y rhai nid ant i fyny;
I gadw gwyl y pebyll.
20Yn y dydd hwnw,
Y bydd ar glychau y march:
SANTEIDDRWYDD i’r ARGLWYDD:
A bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd,
Fel y cawgiau gerbron yr allor.
21A bydd pob crochan yn Ierusalem ac yn Iudah,
Yn SANTEIDDRWYDD i ARGLWYDD y lluoedd
A’r holl aberthwyr a ddeuant;
Ac a gymerant o honynt ac a ferwant ynddynt:
Ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd,
Yn y dydd hwnw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.