Habacuc 1 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. I.—

1Y baich yr hwn a welodd Habacuc y proffwyd.

2Hyd bryd Arglwydd y gwaeddaf,

Ac nis gwrandewi:

Llefaf wrthyt, trais,

Ac nid achubi.

3Paham y gwnei i mi weled anwiredd,

Ac y peri edrych ar flinder;

Anrhaith a thrais sydd o’m blaen:

Ac y mae y cyfyd dadl ac ymryson.

4Am hyny y llaesa cyfraith;

Ac nid â barn allan yn fuddugol:

Am fod y drygionus yn amgylchu yr uniawn;

Am hyny yr a allan farn ŵyrog.

5Edrychwch ar y cenedloedd a gwelwch;

A chan ryfeddu rhyfeddwch:

Canys mi a wnaf waith yn eich dyddiau;

Ni choeliwch y mynegir ef.

6Canys wele fi yn codi y Caldeaid;

Y genedl chwerw a phrysur:

Yr hon a rodia i ledled daear;

I feddianu cyfaneddoedd nad ydynt eiddo hi.

7Dychrynllyd ac ofnadwy yw hi:

Ohoni hi y daw allan ei barn a’i rhagoriaeth.

8A buanach na llewpardiaid yw ei meirch,

A llymach na bleiddiau hwyr;

A’i marchogion a lamant:

A’i marchogion a ddeuant o bell;

Ehedant fel eryr yn prysuro i fwyta.

9Hi a ddaw yn gwbl at drais;

Cyfeiriad eu wynebau sydd rhag blaen:

Ac efe a gasgl gaethion fel tywod.

10Ac efe a wetwyr freninoedd;

A thywysogion a fyddant yn chwerthiniad iddo:

Efe a chwardd wrth bob ymddiffynfa;

Efe a dyra lwch ac a’i cymer hi.

11Yna yr adnewydda wroldeb;

Ac a dramwya ac a drosedda:

Hwn, ei rym yw ei dduw.

12Onid wyt ti er cynt Oh! Arglwydd fy Nuw;

Fy Santaidd,

Ni byddwn farw:

Yn farnedigaeth y gosodaist ef;

Ac yn graig at geryddu yr ordeiniaist ef.

13Yn lanach o lygaid nac i weled drygioni;

Ac edrych ar flinfyd ni elli:

Paham yr edrychi ar droseddwyr;

Y tewi pan lynco gŵr drygionus un uniawnach nag ef.

14Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr:

Ac ymlusgiaid y sydd heb lywydd arnynt.

15Efe a’i cyfyd i fyny i gyd â bach;

Tyn ef yn ei rwyd;

Ac a’i casgl yn ei fallegrwyd:

Am hyny y llawenycha ac y gorfoledda.

16Am hyny yr abertha i’w rwyd;

Ac yr arogldartha i’w fallegrwyd:

Canys trwyddynt hwy y mae ei ran yn fras;

A’i fwyd yn ddanteithiol.

17A ga efe gan hyny waghau ei rwyd:

Ac nad arbedo ladd y cenedloedd yn wastadol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help