1Ac efe a ddangosodd i mi Jehoshuah yr offeiriad mawr, yn sefyll gerbron cenad yr Arglwydd; a’r gwrthwynehwr yn sefyll ar y llaw ddehau iddo i’w wrthwynebu.
2A’r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwrthwynebwr,
Yr Arglwydd a’th gerydda di y gwrthwynebwr;
Yr Arglwydd a’th gerydda di;
Yr hwn sydd yn ymhyfrydi yn Jerusalem:
Onid pentewyn yw hwn a gipiwyd o’r tân.
3A Jehoshuah oedd wedi ei wisgo â dillad budron: ac yn sefyll gerbron y genad.
4Ac efe a aeth rhagddo i ddywedyd wrth y rhai a safent ger ei fron gan ddywedyd: cymerwch ymaith y dillad budron oddiamdano: ac a ddywedodd wrtho ef, gwel, symudais dy anwiredd oddiwrthyt, a gwisger dithau â dillad ceinwych.
5A dywedais, gosoder meitr glân ar ei ben ef: a gosodasant y meitr glân ar ei ben ef, ac a’i gwisgasant â dillad; a chenad yr Arglwydd oedd yn aros.
6A chenad yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Jehoshuah gan ddywedyd:
7Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Os rhodi di yn fy ffyrdd,
Os cedwi yr hyn a orchymynais ei gadw;
Tithau hefyd a ferni fy nhŷ;
Ac a gedwi hefyd fy nghynteddoedd:
A rhoddaf i ti rodfëydd;
Yn mysg y rhai hyn sydd yn aros yma.
8Gwrando, atolwg, Jehoshuah, yr offeiriad mawr,
Ti a’th gymdeithion, sydd yn eistedd ger dy fron;
Canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn:
O herwydd wele myfi yn dwyn allan fy ngwas Blaguryn.
9Canys wele y gareg,
Yr hon a roddais gerbron Jehoshuah;
Ar un gareg y mae saith lygaid:
Wele myfi yn cerfio ei cherfiad hi,
Medd Arglwydd y lluoedd;
A mi a symudaf ymaith anwiredd y wlad hon mewn un dydd.
10Yn y dydd hwnw,
Medd Arglwydd y lluoedd;
Y gelwch bob un ar ei gymydog:
Dan winwydden a than ffigyswydden.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.