1Ac yn awr,
Atoch chwi yr offeiriaid y mae y gorchymyn hwn.
2Oni wrandewch ac onid ystyriwch,
I roddi gogoniant i’m henw I,
Medd Arglwydd y lluoedd;
Yna yr anfonaf yn eich plith y felldith;
Ac a felldithiaf eich bendithion:
A mi a’u melldithiais hefyd;
Am nad oeddech yn ystyried.
3Wele fi yn atal i chwi yr hâd;
A thaenais dom ar eich wynebau;
Tom eich gwyliau:
A chymerir chwi iddo.
4A chewch wybod ddanfon o honof atoch;
Y gorchymyn hwn;
I fod yn gyfamod i mi â Lefi;
Medd Arglwydd y lluoedd.
5Fy nghyfamod ag ef oedd fywyd a hawddfyd;
A rhoddais hwynt iddo am
ofn,Ac efe a’m hofnodd I:
A rhag fy enw yr arswydodd efe.
6Cyfraith gwirionedd fu yn ei enau;
A thwyll ni chafwyd yn ei wefusau ef:
Mewn perffeithrwydd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi;
A llawerodd a drodd efe oddiwrth anwiredd.
7Canys gwefusau offeiriad a gadwant wybodaeth;
A chyfraith a geisiant o’i enau ef:
O herwydd cenad Arglwydd y lluoedd yw efe.
8A chwithau a wyrasoch allan o’r ffordd;
Parasoch i laweroedd dramgwyddo yn y gyfraith;
Torasoch gyfamod y Lefiad;
Medd Arglwydd y lluoedd.
9A minau hefyd a’ch gwnaethum chwithau yn ddirmygedig ac isel gan yr holl bobl:
Yn gymaint ag nas cadwasoch fy ffyrdd I,
A derbyn o honoch wynebau yn y gyfraith.
10Onid un Tad sydd i ni oll;
Onid un Duw a’n creodd ni:
Paham y gwnawn yn anffyddlon un a’i frawd;
I halogi cyfamod ein tadau.
11Twyllodrus fu Judah;
A ffieidd-dra wnaed yn Israel ac yn Jerusalem:
Canys halogodd Judah gysegr yr Arglwydd yr hwn a hoffa;
Ac a briododd ferch duw dieithr.
12Yr Arglwydd a dyr ymaith y gwr a wna hyn yn wyliedydd ac atebydd;
O bebyll Jacob:
Ac yn offrymydd offrwm;
I Arglwydd y lluoedd.
13A hyn eilwaith a wnaech;
Cuddio allor yr Arglwydd â dagrau;
Wylofain a chwynfan;
Fel nad edrycho mwyach ar yr offrwm;
A chymeryd o’ch llaw yr hyn a fyddai foddhaol.
14A chwi a ddywedwch am beth:
Am fod yr Arglwydd yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctyd,
Yr hon y buost ti anffyddlon iddi;
A hithau yn gydymaith iti,
Ac yn wraig dy gyfamod.
15* * *
* * * *
* *
* * *
A gwyliwch ar eich ysbryd,
Ac â gwraig dy ieuenctyd na wna yn dwyllodrus.
16Canys yr wyf yn cashau rhoi ymaith,
Medd Arglwydd Dduw Israel,
A chuddio trais ar wisg un;
Medd Arglwydd y lluoedd:
A gwyliwch ar eich ysbryd,
Ac na fyddwch dwyllodrus.
17Blinasoch yr Arglwydd â’ch geiriau;
A dywedasoch,
Yn mha beth y blinasom Ef:
Trwy ddywedyd o honoch,
Pob gwneuthurwr drygioni sydd dda yn ngolwg yr Arglwydd,
Ac ynddynt hwy yr ymhyfryda Efe;
Neu pa le y mae Duw y farn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.