Zechariah 13 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. XIII.—

1Yn y dydd hwnw

Y bydd ffynon wedi ei hagor;

I dŷ Dafydd ac i breswylwyr Ierusalem:

At bechod ac aflendid.

2A bydd yn y dydd hwnw,

Medd Arglwydd y lluoedd,

Y toraf ymaith enwau yr eilunod o’r tir;

Ac nis cofir hwynt mwyach.

A’r proffwydi hefyd a’r yspryd aflan a yraf allan o’r tir.

3A bydd,

Pan broffwydo gwr mwyach,

Y dywaid ei dad a’i fam ag a’i cenedlasant ef wrtho,

Ni chei fyw,

Canys celwydd a lefaraist yn enw yr Arglwydd:

A’i dad a’i fam y rhai a’i cenedlasant a’i gwanant ef pan broffwydo.

4A bydd yn y dydd hwnw.

Y cywilyddia y proffwydi,

Bob un am ei weledigaeth pan broffwydo.

Ac ni wisgant fantell o rawn i ddywedyd celwydd.

5Ac efe a ddywed,

Nid proffwyd ydwyf fi;

Un yu llafurio daear ydwyf fi;

Canys dyn a’m perchenogodd o’m hieuenctyd.

6A dywedir wrtho.

Beth yw y clwyfau hyn yn dy ddwylaw:

Ac efe a ddywed,

Y rhai y’m clwyfwyd a hwynt yn nhŷ fy ngharwyr.

7Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail,

Ac yn erbyn gwr o gyfaill i mi;

Medd Arglwydd y lluoedd:

Taro y bugail,

A’r praidd a wasgerir;

A mi a droaf fy llaw ar y rhai bychain.

8A bydd trwy yr holl wlad,

Medd yr Arglwydd;

Y torir ymaith, y trenga dwy ran ynddi:

A’r drydedd a adewir ynddi.

9A dygaf y drydedd drwy dân;

A choethaf hwynt fel coethi yr arian:

A phrofaf hwynt fel profi yr aur:

Efe a eilw ar fy enw,

A minau a’i gwrandawaf ef;

Dywedais, fy mobl yw efe;

Ac efe a ddywed, Yr Arglwydd fy Nuw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help