1Cân Habacuc y Proffwyd:
Ar wedd Galarnad.
2Arglwydd, clywais son am danat,
Ofnais, Arglwydd;
Dy waith,
Yn nghanol blynyddoedd cadw ef yn fyw;
Yn nghanol blynyddoedd y peri wybod:
Mewn llid y cofi drugaredd.
3Duw a ddeuai o Teman;
A SANTAIDD o fynydd Paran, Selah,
Ei ogoniant a dodd wybrenau,
A’i fawl a lanwodd y ddaear.
4A byddai dysglaerdeb fel goleuni;
Pelydr iddo a ddeuent oddiwrtho:
Ac yno yr oedd cuddfa ei gryfdwr.
5O’i flaen y cerddai haint:
Ac elai pla allan wrth ei draed.
6Safodd a mesurodd wlad,
Edrychodd a dychrynodd genedloedd;
A drylliwyd mynyddoedd tragywyddol;
A chrynodd bryniau oesol:
Llwybrau oesol sydd iddo.
7Dan gystudd y gwelais bebyll Cusan:
Crynodd lleni gwlad Midian.
8Ai wrth yr afonydd y sorodd yr Arglwydd?
Ai wrth yr afonydd y bu dy ddig?
Ai wrth y môr y bu dy ŵg?
Gan y marchogit ar dy feirch;
Dy gerbydau iachawdwriaeth.
9Gan noethi y noethit dy fwa;
Gan lefaru llwon i lwythau, Selah:
Yn afonydd yr holltit wlad.
10Mynyddoedd a’th welsant,
Crynent;
Cefnllif dyfroedd a aeth ymaith:
Dyfnder a roddes ei lef;
Cododd ei dònau yn uchel.
11Haul, lloer a safodd yn eu preswylfa:
Mewn goleuni y cerddai dy saethau;
Dy waewffon wrth lewyrch mellt.
12Mewn llid y tramwyit wlad:
Mewn digter y dyrnit genedloedd.
13Aethost allan er iachawdwriaeth dy bobl;
Er iachawdwriaeth dy eneiniog:
Toraist benog allan o dŷ anwiriad;
Gan ddynoethi sylfaen hyd wddf, Selah.
14Trywanaist â’i ffyn ef ben ei dywysogion;
Ymgynddeiriogent i’m gwasgaru,
Ymlawenasant fel wrth ddifa tlawd mewn ymguddfa.
15Rhodiaist dy feirch trwy y môr:
Pentwr o ddyfroedd mawrion.
16Clywais, a chyffrodd fy mòl,
Wrth y swn crynodd fy ngwefusau;
Deuai pydredd i’m hesgyrn,
A chrynwn tanaf:
O herwydd fe’m dygir i ddydd trallod;
I fyned i fynu at bobl y rhai a’n llethant.
17Canys ffigysbren ni flodeua,
Ac ni bydd cynyrch ar y gwinwydd;
Palla gwaith olewydden;
A maesydd ni roddant fwyd:
Torwyd dafad o gorlan;
Ac ni bydd eidion wrth bresebau.
18Ond myfi a lawenychaf yn yr Arglwydd;
Gorfoleddaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.
19Yr Arglwydd lôr yw fy nerth;
Ac efe a esyd fy nhraed fel traed ewigod;
Ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel diroedd;
I’r prif gantawr ar fy offer tanau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.