1A bydd yn y dyddiau ar ol hyn,
Y bydd mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei sicrhau ar ben y mynyddoedd;
A dyrchefir ef yn uwch na’r bryniau:
A phobloedd a ddylifant ato.
2A chenedloedd lawer a ânt,
Ac a ddywedant,
Deuwch ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd,
Ac i dŷ Duw Jacob;
Ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd;
Ac ni a rodiwn yn ei lwybrau:
Canys o Sïon yr â cyfraith allan;
A gair yr Arglwydd o Jerusalem.
3Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer;
Ac a argyhoedda genedloedd cryfion hyd yn mhell:
A churant eu cleddyfau yn sychau;
A’u gwaewffyn yn bladuriau;
Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl:
Ac ni ddysgant ryfel mwyach.
4Ac eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren,
Ac ni bydd a ddychryno:
Canys genau Arglwydd y lluoedd a lefarodd.
5Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw:
A ninau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd.
6Yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,
Y casglaf y gloff,
Ac y cynullaf yr hon a yrwyd allan;
A’r hon a ddrygais.
7A gwnaf y gloff yn weddill;
A’r hon a symudwyd yn mhell yn genedl gref:
A’r Arglwydd a deyrnasa arnynt yn mynydd Sïon;
O yn awr hyd byth.
8A thithau twr Eder,
Bryn merch Sïon,
Hyd ataf y daw,
Ac yr â yr arglwyddiaeth gyntefig:
Teyrnas i ferch Jerusalem.
9Yn awr, paham y gwaeddi waedd:
Onid oes ynot frenin,
A ddarfu dy gynghorydd;
Canys gwewyr a’th gymerodd fel un yn esgor.
10Bydd mewn poen ac mewn gwewyr, ferch Sïon,
Fel un yn esgor:
O herwydd yn awr yr êi di allan o ddinas,
A thrigi yn y maes,
A thi a êi hyd Babel,
Yno y’th waredir;
Yno yr achub yr Arglwydd di;
O law dy elynion.
11Ac yn awr y casglwyd llawer o genedloedd i’th erbyn:
Y rhai a ddywedant, haloger hi;
Ac edryched ein llygaid ar Sïon.
12Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd;
Ac ni ddeallant ei gynghor ef:
Canys casglodd hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu.
13Cyfod, a dyrna, ferch Sïon,
Canys dy gorn a osodaf yn haiarn,
A’th garnau a osodaf yn bres;
A thi a ddrylli bobloedd lawer:
A chysegri i’r Arglwydd eu helw hwynt;
A’n golud i Arglwydd yr holl ddaear,
14Yn awr yr ymgynulli ferch ysbeilgar;
Gosododd warchae arnom:
A’i wialen y tarawodd farnwr Israel,
Ar y gern.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.