Amos 7 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. VII.—

1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Iôr i mi;

Ac wele efe yn ffurfìo locustiaid;

Pan ddechreuodd yr atdwf godi:

Ac wele atdwf wedi lladdiadau gwair y brenin oedd.

2A bu pan ddarfuwyd bwyta glaswellt y ddaear;

Y dywedais,

Arglwydd Iôr arbed attolwg;

Pwy a gyfyd Jacob;

Canys bychan yw efe.

3Tosturiodd yr Arglwydd wrth hyn:

Ni bydd medd yr Arglwydd.

4Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Iôr i mi;

Ac wele yr Arglwydd Iôr yn galw am farn drwy dân:

Ac efe a ddifaodd y dyfnder mawr;

Ac a ddifaodd y tir.

5A mi a ddywedais,

Arglwydd Iôr paid, attolwg;

Pwy a gyfyd Jacob: Canys bychan yw efe.

6Tosturiodd yr Arglwydd wrth hyn:

Ni bydd hyn, hefyd;

Medd yr Arglwydd Iôr.

7Fel hyn y dangosodd efe i mi;

Ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar fûr syth;

Ac yn ei law blwmed.

8A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,

Beth a weli di, Amos;

A mi a ddywedais, Plwmed:

A dywedodd yr Arglwydd,

Wele myfi yn gosod plwmed yn nghanol fy mhobl Israel:

Ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.

9A dinystrir uchelfëydd Isaac;

A chysegroedd Israel a anrheithir,

A mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.

10Ac Amasiah offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, bradfwriadodd Amos i’th erbyn yn nghanol tŷ Israel; ni ddichon y tir ddyoddef ei holl eiriau ef.

11Canys fel hyn y dywedodd Amos:

Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf:

Ac Israel yn ddiau a gaethgludir allan o’i wlad.

12A dywedodd Amasiah wrth Amos:

Weledydd, dos, ffo i wlad Judah:

A bwyta fara yno!

Ac yno proffwyda.

13Ac yn Bethel;

Na chwanega broffwydo mwyach:

Canys cysegr brenin ydyw hi;

A llys teyrnas ydyw hi.

14Ac Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaziah;

Nid proffwyd oeddwn i;

Ac nid mab i broffwyd oeddwn i:

Canys bugail oeddwn i a thriniwr sycamorwydd.

15A’r Arglwydd a’m cymerodd i;

Oddiar ol y praidd:

A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf;

Dos, proffwyda i’m pobl Israel.

16Ac yn awr gwrando air yr Arglwydd:

Ti a ddywedi na phroffwyda yn erbyn Israel;

Ac na ddefnyna air yn erbyn tŷ Isaac.

17Am hyny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd,

Dy wraig a buteinia yn y ddinas;

A’th feibion a’th ferched a syrthiant drwy y cleddyf;

A’th dir a renir wrth linyn:

A thithau,

Byddi farw mewn tir halogedig;

Ac Israel,

A gaethgludir yn ddiau allan o’i wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help