Tsephanïah 3 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. III.—

1Gwae yr wrthryfelgar a halogedig:

Y ddinas orthrymus.

2Ni wrandawodd ar lef;

Ni chymerodd addysg:

Yn yr Arglwydd nid ymddiriedodd;

At ei Duw ni nesäodd.

3Ei thywysogion o’i mewn;

Sydd yn llewod rhuol:

Ei barnwyr yn fleiddiau hwyr;

Ni weddillant erbyn y boreu.

4Ei phroffwydi ydynt feilchion;

Yn wŷr twyllodrus:

Ei hoffeiriaid a halogasant yr hyn oedd gysegredig;

Treisiasant gyfraith.

5Yr Arglwydd sydd uniawn yn ei chanol;

Ni wna anwiredd:

Bob boreu y rhydd ei farn yn oleu,

Ni pheidia;

Ond anwiredd ni fedr gywilyddio.

6Torais ymaith genedloedd,

Dinystriwyd eu tyrau hwynt;

Diffaethais eu heolydd hwynt rhag a dramwyai:

Anghyfaneddwyd eu dinasoedd hwynt,

Rhag bod dyn, rhag bod preswylydd.

7Dywedais,

Yn ddiau ti a’m hofni, derbyni addysg;

Fel na thorer ymaith ei thrigfa;

Y cwbl ag a osodais arni:

Er hyny codasant yn foreu,

Llygrasant eu holl weithredoedd.

8Gan hyny dysgwyliwch wrthyf fi,

Medd yr Arglwydd;

At y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth:

Canys fy marn I sydd i gynull cenedloedd,

I gasglu o honof deyrnasoedd,

I dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint;

Canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl wlad.

9O herwydd yna yr adferaf i bobloedd wefus bur:

I alw o bawb o honynt ar enw yr Arglwydd;

I’w wasanaethu ef âg un ysgwydd.

10O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia:

Fy ngweddïwyr y rhai a wasgarwyd genyf;

A ddygant fy offrwm.

11Yn y dydd hwnw ni’th gywilyddir am dy holl weithredoedd;

Trwy y rhai y pechaist i’m herbyn;

Canys yna y symudaf o’th blith,

Y rhai a lawenychant yn dy ddyrchafiad;

Ac ni chwanegi ymddyrchafu mwyach yn fy mynydd santaidd.

12A gweddillaf yn dy ganol di,

Bobl ostyngedig a thlodion;

Ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant.

13Gweddill Israel ni wnant anwiredd,

Ac ni ddywedant gelwydd;

Ac ni cheir yn eu genau hwynt dafod twyllodrus:

Canys hwy a borant ac a orweddant,

Ac ni bydd a’u tarfo.

14Cân, ferch Sïon;

Crechwena, Israel:

Llawenycha a gorfoledda â’r holl galon;

Oh, ferch Jerusalem.

15Trodd yr Arglwydd ymaith dy farnau;

Dinystriodd dy elynion:

Yr Arglwydd brenin Israel sydd yn dy ganol;

Ni weli ddrwg mwyach.

16Yn y dydd hwnw;

Y dywedir wrth Jerusalem,

Nac ofna;

Sïon, na laesed dy ddwylaw.

17Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di yn gadarn,

Efe a achub:

Efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd,

Efe a ymlonydda yn ei gariad;

Efe a orfoledda o’th blegid gan lawenydd.

18Casglaf y rhai o honot sydd brudd am y gymanfa:

Gwae am ddwyn arni waradwydd.

19Wele fi yn gwneuthur yn yr amser hwnw i’th holl gystuddwyr:

Ac a achubaf y gloff,

A’r darfedig a gasglaf:

Ac a’u gosodaf yn foliant ac yn enw;

Yn holl dir eu gwarth.

20Yn yr amser hwnw y dygaf chwi;

Ac yn yr amser y casglaf chwi:

Y rhoddaf chwi yn enw ac yn foliant,

Yn mysg holl bobloedd y ddaear;

Pan ddychwelwyf eich caethiwed chwi o flaen eich llygaid,

Medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help