1Gwinwydden rywiog yw Israel:
Efe a ddyg ffrwyth arno:
Yn ol amlder ei ffrwyth,
Yr amlhaodd efe allorau;
Yn ol daioni ei dir;
Y gwnaethant ddelwau teg.
2Eu calon a ymranodd,
Yn awr y ceir hwy yn euog;
Efe a deifl i lawr eu hallorau;
Efe a ddystrywia eu delwau.
3Canys yn awr y dywedant;
Nid oes i ni frenin:
Am nad ofnasom yr Arglwydd;
A’r brenin,
Pa beth a wna i ni.
4Dywedasant eiriau;
Tyngu celwydd fu gwneuthur cyfamod:
A barn a dyf fel gwenwynllys;
Ar rychau maes.
5Am loi Bethafen;
Yr ofna preswylwyr Samaria:
Canys ei bobl a alarant am dano,
A’i offeiriaid a ddychrynant o’i herwydd;
O achos ei ogoniant, Am iddo ymadaw oddiwrtho.
6Hefyd efe ei hun a ddygir i Assuria;
Yn anrheg i frenin Jareb:
Ephraim a dderbyn gywilydd;
A chywilyddia Israel am ei gynghorion.
7Dinystriwyd Samaria:
Ei brenin a fydd fel asglodyn ar Wyneb dwfr.
8A dystrywir uchelfeydd Afen pechod Israel;
Dring drain a mieri ar eu hallorau hwynt:
A dywedant wrth y mynyddoedd,
Cuddiwch ni;
Ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.
9Er dyddiau Gibeah;
Y pechaist Israel:
Yno y safasant;
Rhyfel yn erbyn plant anwiredd nis goddiwedda hwynt yn Gibeah.
10Y mae yn fy mryd i’w cosbi hwynt:
A phobloedd a gesglir yn eu herbyn;
Gan eu rhwymo hwynt am eu dau anwiredd.
11Ac Ephraim sydd yn aner wedi ei dysgu,
Yn hoff ganddi ddyrnu;
A minnau a af dros degwch ei gwddf hi:
Paraf farchogaeth Ephraim,
Juda a ardd;
Jacob sydd raid iddo lyfnu.
12Heuwch i chwi gyfiawnder,
Medwch drugaredd;
Braenerwch i chwi fraenar:
Ac y mae yn amser i geisio yr Arglwydd;
Hyd oni ddelo a gwlawio cyfiawnder arnoch.
13Arddasoch ddrygioni,
Medasoch anwiredd,
Bwytasoch ffrwyth celwydd:
Canys ymddiriedaist yn dy ffordd,
Yn lluosogrwydd dy gedyrn.
14A chyfyd terfysg yn mysg dy bobloedd,
A’th holl ymddiffynfeydd a ddinystrir;
Fel dinystr Shalman ar Beth Arbel yn nydd rhyfel;
Mam at blant a ddrylliwyd.
15Fel hyn y gwaeth Bethel i chwi;
Am eich mawr ddrwg chwi:
Yn foreu gan ddyfetha y dyfethwyd brenin Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.