Tsephanïah 1 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN I.—

1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu at Tsephanïah, fab Cushi, fab Gedalïah, fab Amarïah, fab Hiscïah: yn nyddiau Joshïah, fab Amon brenin Judah.

2Gan ddystrywio y dystrywiaf bob peth oddiar wyneb y wlad,

Medd yr Arglwydd.

3Dystrywiaf ddyn ac anifail,

Dystrywiaf adar yr awyr a physgod y môr;

A’r tramgwyddiadau ynghyd a’r annuwiolion:

A thoraf ymaith y dyn,

Oddiar wyneb y wlad,

Medd yr Arglwydd.

4Ac estynaf fy llaw ar Judah;

Ac ar holl breswylwyr Jerusalem:

A thoraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal;

Enw yr aberthwyr ynghyd â’r offeiriaid.

5A’r rhai a ymgrymant ar benau y tai i lu y nefoedd:

A’r addolwyr y rhai a dyngant i’r Arglwydd;

A’r rhai a dyngant trwy Malcam.

6A’r rhai a giliasant oddiar ol yr Arglwydd:

A’r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd,

Ac nid ymofynasant am dano.

7Dystawa ger bron yr Arglwydd lôr:

Canys agos yw dydd yr Arglwydd;

O herwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth,

Neillduodd ei wahoddedigion.

8A bydd ar ddydd aberth yr Arglwydd;

Yr ymwelaf â’r tywysogion ac â meibion y brenin;

Ac â phawb ag a wisgant wisgoedd dyeithr.

9Ac ymwelaf â phob un a neidio ar y trothwy yn y dydd hwnw:

Y rhai a lanwant dŷ eu harglwyddi â thrais ac anghyf-iawnder.

10A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,

Swn gwaeddi o borth y pysgod

A galarnad o’r ail ran:

A drylliad mawr o’r bryniau.

11Galerwch, breswylwyr Mactes:

Canys dyfethwyd holl bobl Canaan;

Torwyd ymaith holl rai llwythog o arian.

12A bydd yn yr amser hwnw;

Y chwiliaf Jerusalem â llusernau:

Ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu gwaddod;

Y rhai a ddywedant yn eu calon;

Ni wna yr Arglwydd dda ac ni wna ddrwg.

13A bydd eu cyfoeth yn ysbail;

A’u tai yn anrhaith:

A hwy a adeiladant dai ac nis preswyliant ynddynt;

A phlanant winllanoedd;

Ac nid yfant eu gwin hwynt.

14Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd;

Agos ac yn prysuro yn gyflym:

Swn dydd yr Arglwydd sydd chwerw;

Yno y bloeddia dewr.

15Dydd digofaint yw y dydd hwnw:

Dydd trallod a chyfyngder,

Dydd difrod a dinystr;

Dydd tywyllwch a duedd;

Dydd cymylau a thywyllni.

16Dydd udgorn a larwm:

Yn erbyn y dinasoedd caerog;

Ac yn erbyn y tyrau uchel.

17A mi a gyfyngaf ar ddynion,

A hwy a rodiant megys deillion;

Am bechu o honynt yn erbyn yr Arglwydd:

A thywelltir eu gwaed fel llwch:

A’u cnawd fel y dom.

18Hefyd eu harian;

Eu haur hefyd,

Ni ddichon eu hachub hwynt,

Yn nydd llid yr Arglwydd;

A chan dân ei eiddigedd Ef;

Yr ysir yr holl wlad:

Canys dinystr hollol,

A wna ar holl breswylwyr y wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help