1Gwae fi,
Canys ydwyf fel casgliadau ffrwythau haf;
Fel lloffion cynhauaf grawnwin:
Nid oes swp i’w fwyta;
Blysiais am ffigusen gynar.
2Darfu am dduwiol o’r tir;
A gwr uniawn nid oes yn mhlith dynion:
Cynllwynant bawb o honynt am waed;
Helant bob un ei frawd i ddystryw.
3Y ddwylaw ydynt egniol ar ddrwg;
Y tywysog sydd yn gofyn;
A’r barnwr am y tâl:
A’r gŵr mawr yntau a ddywed ddymuniad ei feddwl.
4A phlethant am y da yn eu plith fel drain;
Am ŵr uniawn yn fwy na chlawdd drain:
Dydd dy wylwyr, dy ymweliad a ddaeth;
Bellach y bydd eu penbleth hwynt.
5Nac ymddiriedwch mewn cyfaill;
Na hyderwch ar gydymaith:
Rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes;
Cadw ddrws dy enau.
6Canys mab a amharcha dad;
Merch a gyfyd yn erbyn ei mham:
Gwaudd yn erbyn ei chwegr:
Gelynion gŵr yw dynion ei dŷ.
7A myfi a edrychaf ar yr Arglwydd;
Dysgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth:
Fy Nuw a’m gwrendy.
8Na lawenycha i’m herbyn fy ngelynes;
Er syrthio o honof mi a gyfodais:
Er yr eisteddaf mewn tywyllwch;
Yr Arglwydd sydd oleuni i mi.
9Dygaf ddig yr Arglwydd;
Canys pechais i’w erbyn:
Hyd oni ddadleuo fy nadl ac y gwnelo fy marn;
Efe a’m dwg i oleuni;
Edrychaf ar ei unionder ef.
10A’m gelynes a ga weled,
A chywilydd a orchuddia;
Yr hon a ddywedodd wrthyf;
Pa le y mae yr Arglwydd dy Dduw:
Fy llygaid a edrychant arni;
Bellach y bydd hi yn sathrfa megys tom yr heolydd.
11Y dydd yr adeiledir dy furiau:
Y dydd hwnw pell pell y fydd.
12Y dydd hwnw y deuir atat;
0 Assur a dinasoedd yr Aipht:
Ac o’r Aipht ïe hyd yr afon
A môr i fôr a mynydd i’r mynydd.
13A’r wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion:
Gan ffrwyth eu gweithredoedd.
14Bugeilia dy bobl â’th wialen,
Defaid dy etifeddiaeth;
Y rhai a drigant yn unig,
Mewn coed yn nghanol Carmel:
Porant Bashan a Gilead megys y dyddiau gynt.
15Megys y dyddiau y daethost allan o dir yr Aipht;
Paraf iddo weled rhyfeddodau.
16Cenedloedd a welant ac a gywilyddiant;
O’u holl gryfder hwynt:
Gosodant law ar enau;
Eu clustiau a fyddarant.
17Llyfant lwch fel y sarph;
Fel ymlusgiaid daear;
Crynant o’u llochesau;
Wrth yr Arglwydd ein Duw ni yr arswydant;
Ac ofnant rhagot ti.
18Pa Dduw sydd fel Tydi,
Yn maddeu anwiredd ac yn myned heibio i gamwedd;
I weddill ei etifeddiaeth:
Ni ddeil efe ei ddig byth;
Am fod yn hoff ganddo drugaredd.
19Efe drugarha wrthym drachefn;
Efe a ddarostwng ein hanwireddau:
A thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr.
20Ti a roddi wirionedd i Jacob;
Trugaredd i Abraham:
Yr hyn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.