Amos 9 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. IX.—

1Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor,

Ac efe a ddywedodd,

Taro gapan y drws fel y siglo y gorsinau,

A thor hwynt oll o honynt yn y pen;

A’u gweddill hwynt a laddaf â’r cleddyf:

Ni ffy ymaith o honynt a ffo;

Ac ni ddianc o honynt a ddiango.

2Pe cloddient i’r byd isaf;

Fy llaw a’u tynai hwynt oddiyno:

A phed esgynant i’r wybrenau;

Mi a’u disgynwn hwynt oddiyno.

3A phe llechent ar ben Carmel;

Chwiliwn a chymerwn hwynt oddiyno:

A phed ymguddient o olwg fy llygaid yn ngwaelod y môr;

Oddiyno y gorchymynwn i’r sarph eu cnoi hwynt.

4Ac os ant yn gaethion o flaen eu gelynion;

Oddiyno y gorchymynaf i’r cleddyf eu lladd hwynt:

A gosodaf fy ngolwg arnynt er drwg ac nid er daioni.

5A’r Arglwydd, Arglwydd y lluoedd,

Yr hwn a gyffwrdd â’r ddaear a hi a dawdd;

A galara pawb a’r a drigant ynddi:

A hi a gyfyd oll o honi fel yr afon;

Ac a ostwng megys afon yr Aipht.

6Yr hwn a adeilada ei oruwch-ystafelloedd yn y nefoedd;

Ac a sylfaenodd ei ystorfeydd ar y ddaear:

Yr hwn a eilw ddyfroedd y môr,

Ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear,

Yr Arglwydd yw ei enw.

7Onid ydych chwi meibion Israel i mi,

Fel meibion Ethiopiaid,

Medd yr Arglwydd:

Oni ddygais I Israel i fynu o dir yr Aipht;

A Philistiaid o Caphtor a Syriaid o Cir.

8Wele lygaid yr Arglwydd Iôr ar y deyrnas bechadurus;

A mi a’i dyfethaf hi oddiar wyneb y ddaear;

Er hyny ni lwyr ddyfethaf dŷ Jacob,

Medd yr Arglwydd.

9Canys wele myfi yn gorchymyn;

A mi a ogrynaf dŷ Israel yn mysg yr holl genedloedd:

Fel y gogrynir yn y gogr:

Ac ni syrth gronyn i’r llawr.

10Trwy gleddyf y bydd marw;

Holl bechaduriaid fy mhobl:

Y rhai a ddywedant,

Ni ddaw y drwg yn agos ac ni wyneba arnom.

11Yn y dydd hwnw,

Y codaf babell Dafydd yr hon a syrthiodd:

Ac a gauaf ei bylchau,

Ac a godaf ei hadfeilion;

Ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt.

12Fel y meddianont weddill Edom a’r holl genedloedd;

Y rhai y gelwir fy enw arnynt:

Medd yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn.

Y rhai y gelwir fy enw arnynt:

Medd yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn.

13Wele ddyddiau yn dyfod,

Medd yr Arglwydd,

Y goddiwes arddwr fedwr;

A sathrydd grawnwin hauwr yr hâd:

A’r mynyddoedd a ddefnynant win newydd,

A’r holl fryniau a lifant trostynt.

14A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel;

A hwy a adeiladant ddinasoedd anrheithiedig ac â'u preswyliant.

A phlanant winllanoedd;

Ac a yfant o’u gwin hwynt:

A gwnant erddi;

Ac a fwytânt eu ffrwyth hwynt.

15A mi a’u planaf hwynt yn eu tir:

Ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir yr hwn a roddais iddynt;

Medd yr Arglwydd dy Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help