Tsephanïah 2 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. II.—

1Ymgesglwch a deuwch ynghyd:

Y genedl ag na chywilyddia.

2Cyn i’r arfaeth esgor;

Fel ûs y mae y dydd yn myned heibio:

Cyn dyfod arnoch angerdd digofaint yr Arglwydd.

3Ceisiwch yr Arglwydd holl rai llariaidd y tir;

Y rhai a wnaethant ei farn Ef:

Ceisiwch uniondeb, ceisiwch addfwynder;

Fe allai y cuddir chwi;

Yn nydd digofaint yr Arglwydd.

4Canys bydd Gaza wedi ei gadael;

Ac Ashcelon yn anrhaith:

Ashdod, ar haner dydd y gyrant hi allan;

Ac Ecron a ddiwreiddir.

5Gwae breswylwyr glàn y môr,

Cenedl y Cerethiaid;

Y mae gair yr Arglwydd i’ch erbyn,

A Chanaan gwlad y Philistiaid;

Mi a’th ddyfethaf fel na byddo cyfaneddwr.

6A bydd glàn y môr yn borfanau,

Yn fythod bugeiliaid ac yn gorlanau defaid.

7A hi a fydd yn rhandir i weddill tŷ Judah;

Arnynt y porant:

Yn nhai Ashcelon y gorweddant yn yr hwyr;

Canys yr Arglwydd eu Duw a ymwel â hwynt,

Ac a ddychwel eu caethiwed hwynt.

8Clywais waradwydd Moab;

A difenwadau meibion Ammon:

A’r rhai y gwaradwyddasant fy mhobl;

Ac ymfawrygasant yn erbyn eu terfyn hwynt.

9Am hyny, byw wyf I,

Medd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel,

Fel Sodom y bydd Moab,

A meibion Ammon fel Gomorah;

Yn dyfle drain a chloddfa halen, ac yn ddifrod hyd byth:

Gweddill fy mhobl a’u difroda hwynt;

A gweddill fy nghenedl a’u meddiana hwynt.

10Hyn a ddaw iddynt am eu balchder:

Canys gwaradwyddasant ac ymfawrygasant;

Yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd.

11Ofnadwy yw yr Arglwydd yn eu herbyn:

Canys efe a ddygodd gulni ar holl dduwiau y tir:

A holl wledydd y cenedloedd;

A ymgrymant iddo bob un o’i lle.

12Hefyd chwithau Ethiopiaid;

Lladdedigion fy nghleddyf ydych.

13Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd:

Ac a ddyfetha Ashur:

Ac a esyd Ninefeh yn ddifrod;

Yn sech fel yr anialwch.

14A deadelloedd o bob rhywogaeth fyw a orweddant yn ei chanol;

Pelican hefyd, draenog hefyd;

A letyant yn nghapiau ei cholofnau:

Swn a chwery yn y ffenestr,

Anghyfanedd-dra a fydd ar y trothwy;

Canys dynoethodd y gwaith cedrwydd.

15Hon yw y ddinas lawen,

Y sydd yn trigo yn ddiogel;

Y sydd yn dywedyd yn ei chalon;

Myfi sydd a neb ond myfi:

Pa fodd yr aeth yn anghyfanedd,

Yn orweddfa i’r anifail;

Pob un a el heibio a hwtia arni,

Efe a ysgwyd ei law.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help