1Cenwch udgorn yn Sion,
Chwythwch gorn ar fy mynydd santaidd;
Dychryned holl breswylwyr y wlad:
Canys yn dyfod y mae dydd yr Arglwydd,
Canys y mae yn agos.
2Dydd tywyll a dû,
Dydd cymylog a niwlog;
Fel y wawr wedi ymdaenu ar y mynyddoedd:
Y mae pobl luosog a chryfion;
Eu bath ni bu erioed;
Ac ar eu hôl ni bydd eilwaith;
Hyd flynyddoedd cenedlaeth a chenedlaeth.
3O’u blaen y difa tân;
Ac ar eu hol y deifia fflam:
Fel gardd Eden y mae y wlad o’u blaen,
Ac ar eu hol yn ddiffaethwch anrheithiedig;
Ië, ac ni ddianc dim rhagddynt.
4Megys golwg ar feirch y mae yr olwg arnynt hwy:
Ac fel marchogion felly y rhedant.
5Megys trwst cerbydau ar benau y mynyddoedd y llamant,
Fel swn fflam dân:
Yn difa sofl:
Fel pobl gryfion;
Parod i ryfel.
6O’u blaen yr ofna pobloedd:
Pawb wynebau a gasglant barddu.
7Fel glewion y rhedant;
Fel rhyfelwyr y dringant fur:
A cherddant bob un yn eu ffyrdd;
Ac ni throant oddiwrth eu llwybrau.
8Ac ni wthiant y naill y naill;
Cerddant bob un ar ei ffordd:
Ac er eu syrthio ar erfyn,
Ni thorir hwynt.
9Gwibiant trwy ddinas,
Rhedant ar fur;
Dringant i’r tai:
Ant i mewn trwy y ffenestri fel lleidr.
10O’u blaen y cryn gwlad;
Y cynhyrfir wybrenau:
Haul a lloer a dywyllir;
A ser a ataliant eu llewyrch.
11A’r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu;
Canys mawr iawn yw ei wersyll ef;
Canys cryf yw yr hwn a wna ei air ef:
Canys mawr yw dydd yr Arglwydd ac ofnadwy iawn,
A phwy a’i herys ef.
12Ac yn awr medd yr Arglwydd;
Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon:
A chydag ympryd, a chyda wylofain, a chyda galar.
13A rhwygwch eich calon ac nid eich dillad;
A dychwelwch at yr Arglwydd eich Duw:
O herwydd graslawn a thosturiol yw Efe;
Hwyrfrydig i ddigofaint a mawr ei drugaredd;
Ac efe a dosturia am y drwg.
14Pwy a ŵyr y tosturia efe eto:
Ac y gedy fendith ar ei ol:
Yn offrwm bwyd ac yn offrwm diod,
I’r Arglwydd eich Duw.
15Cenwch udgorn yn Sion:
Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa.
16Cesglwch bobl ynghyd, cysegrwch gynulleidfa, cynullwch henafgwyr;
Cesglwch blant;
A rhai yn sugno bronau:
Deued priodfab allan o’i ystafell;
A phriodferch o’i ystafell gwely.
17Rhwng y porth a’r allor;
Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd:
A dywedent,
Tosturia, Arglwydd, wrth dy bobl,
Ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth,
I oganu o genedloedd arnynt:
Paham y dywedent yn mhlith y bobloedd;
Pa le mae eu Duw hwynt.
18A’r Arglwydd a eiddigedda am ei dir:
Ac a dosturia wrth ei bobl.
19A’r Arglwydd a etyb ac a ddywaid wrth ei bobl,
Wele fi yn anfon i chwi yr ŷd;
A’r gwin a’r olew;
A diwellir chwi o hono:
Ac nis rhoddaf chwi mwyach yn waradwydd yn mysg y cenedloedd.
20A’r gogleddyn a bellhaf oddiarnoch,
Ac a’i gyraf ef i dir sych a diffaeth;
Ei ran flaen tua môr y dwyrain;
A’i ran ol tua môr y gorllewin:
A’i ddrewdod a gyfyd,
A’i ddrygsawr a â i fyny;
Er gwneuthur o hono fawrhydri.
21Nac ofna di, ddaear:
Gorfoledda a llawenycha;
Canys gwnaeth yr Arglwydd fawredd.
22Nac ofnwch, anifeiliaid maes;
Canys glasodd porfeydd anialwch:
Canys coed a ddygasant eu ffrwyth;
Ffigyswydden a gwinwydden a roddasant eu cynyrch.
23A phlant Sion,
Gorfoleddwch ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw;
Canys rhoddodd i chwi y cynar wlaw wrth raid,
Ac efe a wlawia i chwi gafod o gynar a diweddar wlaw fel cynt.
24A llenwir y lloriau dyrau o ŷd:
A’r cafnau gwasg a redant trosodd o win ac olew.
25A mi a ad-dalaf
i chwi y blynyddoedd;
Y rhai a ddifaodd y locust;
Y lindys, y chesil, a phryf y rhwd:
Fy llu mawr I;
Yr hwn a anfonais i’ch plith.
26A chwi a fwytewch gan fwyta ac ymddigoni;
Ac a folianwch yr Arglwydd eich Duw;
Yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd:
Ac ni waradwyddir fy mhobl byth.
27A chewch wybod fy mod i yn nghanol Israel;
A myfi yw yr Arglwydd eich Duw ac nid arall:
Ac ni waradwyddir fy mhobl byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.