Hosea 6 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. VI.—

1Deuwch a dychwelwn at yr Arglwydd;

Canys efe a’n drylliodd, ac a’n iacha ni:

Efe a glwyfodd, ac efe a’n rhwyma.

2Efe a’n bywha ni ar ol deuddydd:

Ar y trydydd dydd,

Y cyfyd ni i fyny a byddwn fyw ger ei fron ef.

3A nyni a adnabyddwn, dilynwn i adnabod yr Arglwydd;

Ei fynediad sydd sicr fel y wawr;

Ac efe a ddaw fel gwlaw atom;

Fel diweddar wlaw, cynar wlaw daear.

4Pa beth a wnaf i ti, Ephraim;

Pa beth a wnaf i ti, Judah:

A’ch daioni sydd fel cwmwl boreu;

Ac fel y gwlith a ymedy yn foreu.

5Am hyny y dinystriais hwynt trwy y proffwydi;

Lleddais hwynt â geiriau fy ngenau:

A’th farnedigaethau ydynt fel goleuni yn myned allan.

6Canys trugaredd a ewyllysiais, ac nid aberth:

Ac adnabyddiaeth o Dduw yn fwy na phoeth-offrymau.

7A hwynt fel Adda a dorasant gyfamod:

Yno y gwnaethant yn anfìyddlon â mi.

8Gilead

Dinas gweithredwyr anwiredd yw hi:

Wedi ei nodi â gwaed,

9Ac fel minteioedd yn dysgwyl am wr,

Y mae cwmpeini o offeiriaid;

Lladdant ar y ffordd i Shecem

Canys gwnant ysgelerder.

10Yn nhŷ Israel;

Gwelais beth erchyll:

Yno yr oedd puteindra Ephraim;

Halogwyd Israel:

11Hefyd Judah;

Gosodwyd cynhauaf i tithau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help