1Ephraim a’m hamgylchodd â chelwydd;
A thy Israel â thwyll:
[A Judah hefyd sydd yn crwydro oddiwrth Dduw;
Ac oddiwrth yr un Santaidd ffyddlon. Dathe.]
[Eto Judah llywodraetha di o hyd gyda Duw,
A thi bobl y saint bydd ffyddlon. Dr. R. Williams.]
[A Judah sydd hyd yn hyn yn ansefydlog gyda Duw,
Gyda yr un ffyddlon Santaidd. Schmoller.
]2Ephraim sydd yn ymborthi ar wynt,
Ac yn dilyn gwynt y dwyrain;
Ar hyd y dydd celwydd a dinystr a amlha efe:
A chyfamod âg Assur a wnant,
Ac olew a ddygir i’r Aipht.
3Ac y mae i’r Arglwydd gwyn ar Judah:
Ac y mae i ymweled â Jacob yn ol ei ffyrdd;
Yn ol ei weithredoedd y tâl iddo.
4Yn y groth y disodlodd ei frawd:
Ac yn ei nerth yr ymdrechodd â Duw.
5Ac efe a ymdrechodd ag angel a gorchfygodd;
Wylodd ac ymbiliodd ag ef:
Cafodd ef yn Bethel;
Ac yno yr ymddyddanodd ag ef.
6A Jehovah Duw y lluoedd:
Jehovah yw ei goffadwriaeth ef.
7A thithau tro gyda’th Dduw:
Cadw drugaredd a barn;
A dysgwyl wrth dy Dduw bob amser.
8Yn farchnatäwr,
Yn ei law y mae clorianau twyllodrus,
Da ganddo orthrymu.
9A dywed Ephraim;
Diau mi a ymgyfoethogais;
Cefeis i mi olud:
Yn fy holl gynyrch ni chafwyd yn fy erbyn fai a fyddai yn bechod.
10A mi yr Arglwydd dy Dduw o wlad yr Aipht;
Gwnaf i ti drigo mewn pebyll megys ar ddyddiau cymanfa.
11A mi a lefarais wrth y proffwydi;
A myfi a roddais aml weledigaeth:
A thrwy y proffwydi yr arferais gyffelybiaethau.
12Os bu Gilead yn anwireddus,
Twyllodrus yn ddiau fuont yn Gilgal;
Ychain a aberthasant:
Eu hallorau hefyd sydd fel carneddau;
Ar rychau maes.
13A ffodd Jacob i wlad Aram:
A gwasanaethodd Israel am wraig;
Ac am wraig y bu yn bugeilio.
14A thrwy broffwyd y dygodd yr Arglwydd Israel i fynu o’r Aipht:
A thrwy broffwyd y cadwyd ef.
15Ephraim a barodd ddigofaint chwerw:
A’i waed a adewir arno;
A’i waradwydd a ddychwel ei Arglwydd arno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.